5 Paid maddau iddyn nhw na cuddio eu pechodau o dy olwg! Maen nhw wedi cythruddo'r rhai sy'n adeiladu!”
6 Felly dyma ni'n ailadeiladu'r wal. Roedd hi'n gyfan hyd at hanner ei huchder ac roedd y bobl yn frwd i weithio.
7 Ond pan glywodd Sanbalat a Tobeia, yr Arabiaid, pobl Ammon a pobl Ashdod fod y gwaith o adfer waliau Jerwsalem yn dod yn ei flaen cystal, a bod y bylchau yn y wal yn cael eu cau, roedden nhw'n wyllt.
8 A dyma nhw'n cynllwynio gyda'i gilydd i ymosod ar Jerwsalem a chreu helynt.
9 Felly dyma ni'n gweddïo ar ein Duw, a gosod gwylwyr i edrych allan amdanyn nhw ddydd a nos.
10 Ond yna dyma bobl Jwda yn dechrau dweud,“Mae'r gweithwyr yn blino a stryffaglu,ac mae cymaint o rwbel.Does dim gobaith i ni adeiladua gorffen y gwaith ar y wal!”
11 Roedd ein gelynion yn brolio, “Cyn iddyn nhw sylweddoli beth sy'n digwydd, byddwn ni yn eu canol yn eu lladd nhw, a bydd y gwaith yn dod i ben!”