8 A dyma nhw'n cynllwynio gyda'i gilydd i ymosod ar Jerwsalem a chreu helynt.
9 Felly dyma ni'n gweddïo ar ein Duw, a gosod gwylwyr i edrych allan amdanyn nhw ddydd a nos.
10 Ond yna dyma bobl Jwda yn dechrau dweud,“Mae'r gweithwyr yn blino a stryffaglu,ac mae cymaint o rwbel.Does dim gobaith i ni adeiladua gorffen y gwaith ar y wal!”
11 Roedd ein gelynion yn brolio, “Cyn iddyn nhw sylweddoli beth sy'n digwydd, byddwn ni yn eu canol yn eu lladd nhw, a bydd y gwaith yn dod i ben!”
12 Roedd yr Iddewon oedd yn byw wrth eu hymyl nhw wedi'n rhybuddio ni lawer gwaith, “Dylech chi ddod yn ôl aton ni, maen nhw'n cynllwyn i ymosod.”
13 Felly dyma fi'n gosod pobl i amddiffyn y rhannau isaf, tu ôl i'r wal yn y mannau mwyaf agored. Gosodais nhw bob yn glan, gyda cleddyfau, gwaywffyn a bwâu.
14 Yna ar ôl edrych dros y cwbl, dyma fi'n codi i annerch yr arweinwyr, y swyddogion, a gweddill y bobl, a dweud, “Peidiwch bod a'u hofn nhw. Cofiwch mor fawr a rhyfeddol ydy'r Meistr! Byddwch barod i ymladd dros eich pobl, eich meibion, eich merched, eich gwragedd a'ch cartrefi!”