13 Roedd wedi cael ei dalu i'm dychryn i, er mwyn i mi bechu drwy wneud beth roedd e'n ei awgrymu. Byddai hynny wedyn wedi arwain at sgandal a rhoi enw drwg i mi.
14 O Dduw, cofia beth mae Tobeia a Sanbalat wedi ei wneud – a hefyd Noadeia y broffwydes, a'r proffwydi eraill sy'n trïo fy nychryn i.
15 Cafodd y wal ei gorffen ar y pumed ar hugain o fis Elwl – dim ond pum deg dau diwrnod gymrodd y gwaith!
16 Roedd ein gelynion, a'r gwledydd o'n cwmpas, wedi dychryn a digalonni pan glywon nhw fod y gwaith wedi ei orffen. Allen nhw ddim gwadu fod Duw wedi ein helpu ni i wneud hyn.
17 Drwy'r cyfnod yma roedd pobl bwysig Jwda a Tobeia wedi bod yn ysgrifennu'n ôl ac ymlaen at ei gilydd.
18 Roedd yna lawer o bobl yn Jwda wedi addo cefnogi Tobeia am ddau reswm: roedd yn fab-yng-nghyfraith i Shechaneia fab Arach, ac roedd ei fab Iehochanan wedi priodi merch Meshwlam fab Berecheia.
19 Roedden nhw'n dweud wrtho i am yr holl bethau da roedd e'n eu gwneud, ac yna'n dweud wrtho fe beth ddwedais i. Wedyn roedd Tobeia'n anfon llythyrau bygythiol ata i.