3 Felly dyma fi'n anfon neges yn ôl yn dweud, “Dw i'n gwneud gwaith pwysig, ac felly alla i ddim dod. Alla i ddim gadael i'r gwaith stopio er mwyn dod i'ch cyfarfod chi.”
4 Dyma nhw'n cysylltu i ofyn yr un peth bedair gwaith, a rhois yr un ateb iddyn nhw bob tro.
5 Yna'r pumed tro dyma Sanbalat yn anfon ei was gyda llythyr agored yn ei law.
6 Dyma oedd y llythyr yn ei ddweud:“Mae yna si yn mynd o gwmpas (ac mae Geshem wedi cadarnhau hyn), dy fod ti a'r Iddewon yn bwriadu gwrthryfela, ac mai dyna pam dych chi'n adeiladu'r waliau. A'r sôn ydy dy fod ti am fod yn frenin arnyn nhw.
7 Mae'n nhw'n dweud dy fod wedi penodi proffwydi yn Jerwsalem i gyhoeddi, ‘Mae brenin yn Jwda!’Bydd brenin Persia yn dod i glywed am y sibrydion yma. Felly tyrd! Gad i ni drafod y mater.”
8 Dyma fi'n anfon neges yn ôl ato yn dweud, “Dydy'r pethau rwyt ti'n ddweud amdanon ni ddim yn wir. Ffrwyth dy ddychymyg di ydy'r cwbl!”
9 (Ceisio'n dychryn ni roedden nhw, gan feddwl y bydden ni'n llaesu dwylo ac y byddai'r gwaith ddim yn cael ei orffen. Ond roedd hyn wedi fy ngwneud i'n fwy penderfynol fyth.)