8 Dyma fi'n anfon neges yn ôl ato yn dweud, “Dydy'r pethau rwyt ti'n ddweud amdanon ni ddim yn wir. Ffrwyth dy ddychymyg di ydy'r cwbl!”
9 (Ceisio'n dychryn ni roedden nhw, gan feddwl y bydden ni'n llaesu dwylo ac y byddai'r gwaith ddim yn cael ei orffen. Ond roedd hyn wedi fy ngwneud i'n fwy penderfynol fyth.)
10 Yna es i weld Shemaia fab Delaia ac ŵyr Mehetafél, oedd ddim yn gallu gadael ei dŷ. A dyma fe'n dweud,“Gad i ni gyfarfod yn y cysegr –cysegr Duw yn y Deml,a cloi ein hunain i mewn.Maen nhw'n dod i dy ladd di –dod i dy ladd di'n y nos.”
11 Ond dyma fi'n ateb, “Ydy'n iawn i ddyn fel fi redeg i ffwrdd? A sut all dyn cyffredin fel fi fynd i mewn i'r cysegr a cael byw? Na, wna i ddim mynd.”
12 Roedd hi'n amlwg fod Duw ddim yn siarad trwyddo – Tobeia a Sanbalat oedd wedi ei dalu i roi'r broffwydoliaeth yna.
13 Roedd wedi cael ei dalu i'm dychryn i, er mwyn i mi bechu drwy wneud beth roedd e'n ei awgrymu. Byddai hynny wedyn wedi arwain at sgandal a rhoi enw drwg i mi.
14 O Dduw, cofia beth mae Tobeia a Sanbalat wedi ei wneud – a hefyd Noadeia y broffwydes, a'r proffwydi eraill sy'n trïo fy nychryn i.