67 (heb gyfri'r 7,337 o weision a morynion oedd ganddyn nhw; ac roedd 245 o gantorion – dynion a merched – gyda nhw hefyd).
68-69 Roedd ganddyn nhw 736 o geffylau, 245 o fulod, 435 o gamelod a 6,720 o asynnod.
70 Dyma rai o benaethiaid y claniau yn cyfrannu tuag at y gwaith.Y llywodraethwr – 8 cilogram o aur, 50 powlen, a 530 o wisgoedd i'r offeiriaid.
71 Penaethiaid y claniau – 160 cilogram o aur a 1,300 cilogram o arian.
72 Yna cyfraniad gweddill y bobl oedd 160 cilogram o aur a 1,200 cilogram o arian, a 67 o wisgoedd i'r offeiriaid.
73 Felly dyma'r offeiriaid, Lefiaid, cantorion, gofalwyr y giatiau a gweision y deml i gyd yn setlo i lawr yn eu trefi eu hunain. Ac aeth gweddill pobl Israel yn ôl i fyw i'w trefi hwythau hefyd.Pan ddaeth y seithfed mis, aeth pobl Israel o'u trefi