1 a dod at ei gilydd yn Jerwsalem yn y sgwâr o flaen Giât y Dŵr. Dyma nhw'n gofyn i Esra'r ysgrifennydd ddod yno gyda Llyfr Cyfraith Moses oedd yr ARGLWYDD wedi ei roi i bobl Israel.
2 Felly ar ddiwrnod cynta'r seithfed mis dyma Esra'r offeiriad yn dod a darllen y cyfarwyddiadau i'r gynulleidfa oedd yno – yn ddynion a merched, a phawb oedd yn ddigon hen i ddeall.
3 Bu'n darllen iddyn nhw yn y sgwâr o flaen Giât y Dŵr o'r bore bach hyd ganol dydd. Roedd pawb yn gwrando'n astud ar beth roedd sgrôl y Gyfraith yn ei ddweud.
4 Roedd Esra'n sefyll ar lwyfan uchel o goed oedd wedi ei godi'n unswydd. Roedd Matitheia, Shema, Anaia, Wreia, Chilcïa, a Maaseia yn sefyll ar ei ochr dde iddo, a Pedaia, Mishael, Malcîa, Chashŵm, Chashbadana, Sechareia a Meshwlam ar y chwith.