12 Felly dyma'r bobl i gyd yn mynd i ffwrdd i fwyta ac yfed a rhannu beth oedd ganddyn nhw'n llawen – achos roedden nhw wedi deall beth oedd wedi cael ei ddysgu iddyn nhw.
13 Yna'r diwrnod wedyn dyma benaethiaid y claniau, yr offeiriaid a'r Lefiaid yn cyfarfod gydag Esra yr ysgrifennydd i astudio eto beth roedd y Gyfraith yn ei ddweud.
14 A dyma nhw'n darganfod fod yr ARGLWYDD wedi rhoi gorchymyn drwy Moses fod pobl Israel i fyw mewn llochesau dros dro yn ystod yr Ŵyl yn y seithfed mis.
15 Roedden nhw i fod i gyhoeddi'r neges yma drwy'r trefi i gyd, ac yn Jerwsalem: “Ewch i'r bryniau i gasglu canghennau deiliog pob math o goed – olewydd, myrtwydd, palmwydd ac yn y blaen – i godi'r llochesau gyda nhw. Dyna sydd wedi ei ysgrifennu yn y Gyfraith.”
16 Felly dyma'r bobl yn mynd allan a dod â'r canghennau yn ôl gyda nhw i godi llochesau iddyn nhw eu hunain – ar ben to eu tai, neu yn yr iard, yn iard y deml ac yn sgwâr Giât y Dŵr a Giât Effraim.
17 Aeth pawb oedd wedi dod yn ôl o'r gaethglud ati i godi llochesau dros dro i fyw ynddyn nhw dros yr Ŵyl. Doedd pobl Israel ddim wedi gwneud fel yma ers dyddiau Josua fab Nwn. Roedd pawb yn dathlu'n llawen.
18 Dyma Esra yn darllen o Lyfr Cyfraith Duw bob dydd, o ddechrau'r Ŵyl i'w diwedd. Dyma nhw'n cadw'r Ŵyl am saith diwrnod, ac yna yn ôl y drefn dod at ei gilydd i addoli eto.