4 Roedd Esra'n sefyll ar lwyfan uchel o goed oedd wedi ei godi'n unswydd. Roedd Matitheia, Shema, Anaia, Wreia, Chilcïa, a Maaseia yn sefyll ar ei ochr dde iddo, a Pedaia, Mishael, Malcîa, Chashŵm, Chashbadana, Sechareia a Meshwlam ar y chwith.
5 Dyma Esra yn agor y sgrôl. (Roedd pawb yn ei weld yn gwneud hyn, gan ei fod i fyny ar y llwyfan.) Pan agorodd y sgrôl, dyma'r bobl i gyd yn sefyll ar eu traed.
6 Yna dyma Esra yn bendithio yr ARGLWYDD, y Duw mawr. A dyma'r bobl yn ateb, “Amen! Amen!” a codi eu dwylo. Yna dyma nhw'n plygu'n isel i addoli'r ARGLWYDD, a'i hwynebau ar lawr.
7 Tra roedd y bobl yn sefyll yno, roedd nifer o Lefiaid yn dysgu'r Gyfraith iddyn nhw – Ieshŵa, Bani, Sherefeia, Iamin, Accwf, Shabbethai, Hodeia, Maaseia, Celita, Asareia, Iosafad, Chanan, a Pelaia.
8 Roedden nhw'n darllen o sgrôl y Gyfraith bob yn adran, ac yna yn ei esbonio, fel bod y bobl yn deall beth oedd yn cael ei ddarllen.
9 Roedd y bobl wedi dechrau crïo wrth wrando ar y Gyfraith yn cael ei darllen iddyn nhw. A dyma Nehemeia y llywodraethwr, Esra yr offeiriad a'r ysgrifennydd, a'r Lefiaid oedd yn rhoi'r esboniad, yn dweud, “Mae heddiw'n ddiwrnod wedi ei gysegru i'r ARGLWYDD eich Duw. Peidiwch galaru a crïo.
10 Ewch i ddathlu a mwynhau pryd o fwyd a diod felys, a cofiwch rannu gyda'r rhai sydd heb ddim. Mae heddiw'n ddiwrnod wedi ei gysegru i'r Meistr. Peidiwch bod yn drist – bod yn llawen yn yr ARGLWYDD sy'n rhoi nerth i chi!”