9 Roedd y bobl wedi dechrau crïo wrth wrando ar y Gyfraith yn cael ei darllen iddyn nhw. A dyma Nehemeia y llywodraethwr, Esra yr offeiriad a'r ysgrifennydd, a'r Lefiaid oedd yn rhoi'r esboniad, yn dweud, “Mae heddiw'n ddiwrnod wedi ei gysegru i'r ARGLWYDD eich Duw. Peidiwch galaru a crïo.
10 Ewch i ddathlu a mwynhau pryd o fwyd a diod felys, a cofiwch rannu gyda'r rhai sydd heb ddim. Mae heddiw'n ddiwrnod wedi ei gysegru i'r Meistr. Peidiwch bod yn drist – bod yn llawen yn yr ARGLWYDD sy'n rhoi nerth i chi!”
11 Yna dyma'r Lefiaid yn tawelu'r bobl, a dweud, “Ust! Stopiwch grïo. Mae heddiw'n ddiwrnod cysegredig.”
12 Felly dyma'r bobl i gyd yn mynd i ffwrdd i fwyta ac yfed a rhannu beth oedd ganddyn nhw'n llawen – achos roedden nhw wedi deall beth oedd wedi cael ei ddysgu iddyn nhw.
13 Yna'r diwrnod wedyn dyma benaethiaid y claniau, yr offeiriaid a'r Lefiaid yn cyfarfod gydag Esra yr ysgrifennydd i astudio eto beth roedd y Gyfraith yn ei ddweud.
14 A dyma nhw'n darganfod fod yr ARGLWYDD wedi rhoi gorchymyn drwy Moses fod pobl Israel i fyw mewn llochesau dros dro yn ystod yr Ŵyl yn y seithfed mis.
15 Roedden nhw i fod i gyhoeddi'r neges yma drwy'r trefi i gyd, ac yn Jerwsalem: “Ewch i'r bryniau i gasglu canghennau deiliog pob math o goed – olewydd, myrtwydd, palmwydd ac yn y blaen – i godi'r llochesau gyda nhw. Dyna sydd wedi ei ysgrifennu yn y Gyfraith.”