1 Ar y pedwerydd ar hugain o'r un mis dyma bobl Israel yn dod at ei gilydd eto. Roedden nhw'n ymprydio, yn gwisgo sachliain, ac wedi taflu pridd ar eu pennau.
2 Dyma'r rhai oedd yn ddisgynyddion go iawn i bobl Israel yn gwahanu eu hunain oddi wrth bobl o wledydd eraill, ac yn sefyll i gyffesu eu bod nhw a'u hynafiaid wedi pechu a gwneud drwg.
3 Buon nhw'n sefyll yno am dair awr, tra roedd Cyfraith yr ARGLWYDD eu Duw yn cael ei darllen o'r sgrôl, ac yna am dair awr arall yn cyffesu eu pechodau a plygu i lawr i addoli.
4 Yna dyma'r Lefiaid – Ieshŵa, Bani, Cadmiel, Shefaneia, Bwnni, Sherefeia, Bani, a Cenani – yn sefyll ar y grisiau yn crïo a galw'n uchel ar yr ARGLWYDD eu Duw.
5 Wedyn dyma grŵp arall o Lefiaid – Ieshŵa, Cadmiel, Bani, Chashafneia, Sherefeia, Hodeia, Shefaneia, a Pethacheia – yn cyhoeddi, “Safwch ar eich traed a bendithio yr ARGLWYDD eich Duw!”“Bendith arnat ti, O ARGLWYDD ein Duw, o hyn ymlaen ac i dragwyddoldeb! Boed i dy enw gwych di gael ei fendithio, er nad ydy geiriau'n ddigon i fynegi'r fendith a'r mawl!
6 Ti ydy'r ARGLWYDD, a dim ond ti.Ti wnaeth greu yr awyr,y gofod a'r holl sêr,y ddaear a phopeth sydd arni,a'r moroedd a phopeth sydd ynddynt.Ti sydd yn cynnal y cwbl,ac mae tyrfa'r nefoedd yn plygu o dy flaen di.