12 Ti wnaeth arwain dy bobl gyda cholofn o niwl yn y dydd,a cholofn o dân i oleuo'r ffordd yn y nos.
13 Dyma ti'n dod i lawr ar Fynydd Sinai,a siarad gyda nhw o'r nefoedd.Rhoddaist ganllawiau teg, dysgeidiaeth wir,rheolau a gorchmynion da.
14 Eu dysgu nhw fod y Saboth yn gysegredig,a cael Moses i ddysgudy orchmynion, dy reolau a'th ddysgeidiaeth iddyn nhw.
15 Rhoist fara o'r nefoedd iddyn nhw,pan oedden nhw eisiau bwyd;a dod â dŵr o'r graigpan oedden nhw'n sychedig.Yna dwedaist wrthyn nhw am fynd i gymryd y tirroeddet ti wedi addo ei roi iddyn nhw.
16 Ond roedd ein hynafiaid yn falch ac ystyfnig,a wnaethon nhw ddim gwrando ar dy orchmynion di.
17 Gwrthodon nhw wrando, ac anghofio'r gwyrthiauroeddet ti wedi eu gwneud yn eu plith nhw.Dyma nhw'n gwrthryfela, a dewis arweinyddi'w harwain nhw yn ôl i'r Aifft.Ond rwyt ti yn Dduw sydd yn maddau,rwyt ti mor garedig a thrugarog,mor amyneddgar ac mor anhygoel o hael!Wnest ti ddim hyd yn oed troi cefn arnyn nhw
18 pan wnaethon nhw eilun metel ar siâp tarw ifanca honni, ‘Dyma'r duw ddaeth â chi allan o'r Aifft!’neu pan oedden nhw'n cablu yn ofnadwy.