17 Gwrthodon nhw wrando, ac anghofio'r gwyrthiauroeddet ti wedi eu gwneud yn eu plith nhw.Dyma nhw'n gwrthryfela, a dewis arweinyddi'w harwain nhw yn ôl i'r Aifft.Ond rwyt ti yn Dduw sydd yn maddau,rwyt ti mor garedig a thrugarog,mor amyneddgar ac mor anhygoel o hael!Wnest ti ddim hyd yn oed troi cefn arnyn nhw
18 pan wnaethon nhw eilun metel ar siâp tarw ifanca honni, ‘Dyma'r duw ddaeth â chi allan o'r Aifft!’neu pan oedden nhw'n cablu yn ofnadwy.
19 Am dy fod ti mor drugarog,wnest ti ddim troi cefn arnyn nhw yn yr anialwch.Roedd y golofn o niwl yn dal i'w harwain yn y dydd,a'r golofn dân yn dal i oleuo'r ffordd iddyn nhw yn y nos.
20 Dyma ti'n rhoi dy ysbryd da i'w dysgu nhw.Wnest ti ddim stopio rhoi manna iddyn nhw i'w fwyta,a dal i roi dŵr i dorri eu syched.
21 Dyma ti'n eu cynnal nhw am bedwar deg mlynedd.Er eu bod yn yr anialwch, doedden nhw'n brin o ddim;wnaeth eu dillad ddim treulio, a'u traed ddim chwyddo.
22 Yna dyma ti'n rhoi teyrnasoedd a phobloedd iddyn nhw,a rhannu pob cornel o'r tir rhyngddyn nhw.Dyma nhw'n meddiannu tir Sihon, brenin Cheshbon,a tir Og, brenin Bashan.
23 Dyma ti'n rhoi cymaint o ddisgynyddion iddyn nhwag sydd o sêr yn yr awyr.A dod â nhw i'r tir roeddet ti wedi dweudwrth eu tadau eu bod i'w feddiannu.