Nehemeia 9:22-28 BNET

22 Yna dyma ti'n rhoi teyrnasoedd a phobloedd iddyn nhw,a rhannu pob cornel o'r tir rhyngddyn nhw.Dyma nhw'n meddiannu tir Sihon, brenin Cheshbon,a tir Og, brenin Bashan.

23 Dyma ti'n rhoi cymaint o ddisgynyddion iddyn nhwag sydd o sêr yn yr awyr.A dod â nhw i'r tir roeddet ti wedi dweudwrth eu tadau eu bod i'w feddiannu.

24 A dyma'r disgynyddion yn mynd i mewn a'i gymryd.Ti wnaeth goncro'r Canaaneaid oedd yn byw yn y wlad.Ti wnaeth roi'r fuddugoliaeth iddyn nhw –iddyn nhw wneud fel y mynnon nhwâ'r bobl a'u brenhinoedd.

25 Dyma nhw'n concro trefi caeroga chymryd tir ffrwythlon.Meddiannu tai yn llawn o bethau da,pydewau wedi eu cloddio, gwinllannoedd,gerddi olewydd, a digonedd o goed ffrwythau.Cafodd pawb ddigon i'w fwyta, a pesgi;roedden nhw'n byw'n fras ar dy holl ddaioni.

26 Ond dyma nhw'n dechrau bod yn anufudda gwrthryfela yn dy erbyn di.Troi cefn ar dy Gyfraith di,a lladd dy broffwydioedd wedi bod yn eu siarsioi droi yn ôl atat– roedden nhw'n cablu yn ofnadwy.

27 Felly dyma ti'n gadael i'w gelynioneu gorchfygu a'u gorthrymu.Ond dyma nhw'n gweiddi am dy helpo ganol eu trafferthion,a dyma ti'n gwrando o'r nefoedd.Am dy fod ti mor barod i dosturio,dyma ti'n anfon rhai i'w hachub o afael eu gelynion.

28 Ond yna, pan oedden nhw'n gyfforddus eto,dyma nhw'n mynd yn ôl i'w ffyrdd drwg.Felly dyma ti'n gadael i'w gelyniongael y llaw uchaf arnyn nhw.Wedyn bydden nhw'n gweiddi am dy help di eto,a byddet tithau'n gwrando o'r nefoeddac yn eu hachub nhw dro ar ôl troam dy fod mor drugarog.