31 Ac eto, am dy fod ti mor drugarog,wnest ti ddim cael gwared â nhw yn llwyr;wnest ti ddim troi dy gefn arnyn nhw.Rwyt ti mor garedig a thrugarog!
32 Felly, o ein Duw – y Duw mawr, pwerus, rhyfeddol,sy'n cadw dy ymrwymiad ac sydd mor hael –dŷn ni wedi dioddef caledi ers dyddiau brenhinoedd Asyria(ni y bobl, ein brenhinoedd, arweinwyr, offeiriaid, proffwydi, a'n hynafiaid);paid meddwl mai peth bach ydy hyn.
33 Roeddet ti'n iawn yn gadael i'r cwbl ddigwydd i ni.Rwyt ti wedi bod yn ffyddlon;ni sydd wedi bod ar fai.
34 Wnaeth ein brenhinoedd a'n harweinwyr,ein hoffeiriaid a'n hynafiaid,ddim cadw dy gyfraith, dy ganllawiau a'th orchmynion.
35 Wnaethon nhw ddim dy wasanaethu dina troi cefn ar eu ffyrdd drwg,hyd yn oed pan oedd popeth ganddyn nhw:teyrnas, dy ddaioni rhyfeddol tuag atyn nhw,a'r tir da a ffrwythlon wnest ti ei roi iddyn nhw.
36 A dyma ni, heddiw, yn gaethweisionyn y tir ffrwythlon wnest ti ei roi i'n hynafiaid!Ydyn, dŷn ni'n gaethweision yma!
37 Mae'r holl gnydau sy'n tyfu ymayn mynd i'r brenhinoedd rwyt ti wedi eu rhoi i'n rheoli,o achos ein pechodau.Maen nhw'n ein rheoli ni a'n hanifeiliaid,ac yn gwneud fel y mynnon nhw!Mae hi'n galed arnon ni!