6 Ti ydy'r ARGLWYDD, a dim ond ti.Ti wnaeth greu yr awyr,y gofod a'r holl sêr,y ddaear a phopeth sydd arni,a'r moroedd a phopeth sydd ynddynt.Ti sydd yn cynnal y cwbl,ac mae tyrfa'r nefoedd yn plygu o dy flaen di.
7 Ti ydy'r ARGLWYDD Dduw wnaeth ddewis Abram,a'i arwain allan o Ur yn Babilonia,a rhoi'r enw Abraham iddo.
8 Pan welaist ei fod yn ffyddlondyma ti'n ymrwymo gydag ei roi gwlad Canaan i'w ddisgynyddion –tir yr Hethiaid a'r Amoriaid,y Peresiaid, y Jebwsiaid a'r Girgasiaid.A dyma ti'n cadw dy air,am dy fod ti'n gwneud beth sy'n iawn.
9 Gwelaist ein hynafiaid yn dioddef yn yr Aifft,a clywaist nhw'n gweiddi am help wrth y Môr Coch.
10 Yna gwnest wyrthiau rhyfeddol i daro'r Pharoa'i swyddogion, a pobl y wlad, am fod mor greulon.Ti'n enwog am y pethau yma hyd heddiw.
11 Dyma ti'n hollti'r môr o'u blaenau nhw,iddyn nhw gerdded drwy'r môr ar dir sych!Yna dyma ti'n taflu'r rhai oedd yn ceisio'u dal i'r dŵr dwfn,a dyma nhw'n suddo fel carreg dan y tonnau mawr.
12 Ti wnaeth arwain dy bobl gyda cholofn o niwl yn y dydd,a cholofn o dân i oleuo'r ffordd yn y nos.