3 Felly dywed wrth y bobl: ‘Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud: Trowch yn ôl ata i, a bydda i'n troi atoch chi. Ie, dyna mae e'n ddweud.
4 Peidiwch bod yr un fath â'ch hynafiaid, oedd yn cymryd dim sylw o gwbl pan oedd y proffwydi yn dweud wrthyn nhw fy mod i eisiau iddyn nhw stopio gwneud pethau drwg, meddai'r ARGLWYDD.
5 A ble mae'ch hynafiaid chi bellach? Maen nhw a'r proffwydi wedi hen fynd!
6 Ond daeth y cwbl ddywedais i fyddai'n digwydd iddyn nhw yn wir! Roedden nhw'n edifar wedyn, ac roedd rhaid iddyn nhw gyfaddef, “Mae'r ARGLWYDD holl-bwerus wedi gwneud beth ddwedodd e, a dyna roedden ni'n ei haeddu.”’”
7 Ar y pedwerydd ar hugain o fis un ar ddeg (sef mis Shebat) yn ail flwyddyn teyrnasiad Dareius, dyma'r proffwyd Sechareia yn cael neges arall gan yr ARGLWYDD. Dwedodd Sechareia:
8 Ces i weledigaeth yng nghanol y nos. Gwelais ddyn ar gefn ceffyl fflamgoch. Roedd e'n sefyll rhwng y llwyni myrtwydd yn y ceunant. Roedd ceffylau eraill tu ôl iddo – rhai fflamgoch, rhai llwyd a rhai gwyn.
9 Roedd angel yna wrth ymyl, a dyma fi'n gofyn iddo, “Beth ydy ystyr hyn, syr?” A dyma fe'n ateb, “Gwna i ddangos i ti.”