1 Edrychais eto, a'r tro yma roedd pedwar cerbyd rhyfel yn dod i'r golwg rhwng dau fynydd – mynyddoedd o bres.
2 Ceffylau fflamgoch oedd yn tynnu'r cerbyd cyntaf, ceffylau duon yr ail,
3 ceffylau gwynion y trydydd, a cheffylau llwyd yr olaf. Roedden nhw i gyd yn geffylau rhyfel cryfion.
4 Dyma fi'n gofyn i'r angel oedd yn siarad â mi, “Beth ydy'r rhain, syr?”
5 A dyma'r angel yn ateb, “Dyma bedwar gwynt y nefoedd wedi eu hanfon allan gan Feistr y ddaear gyfan.
6 Mae'r cerbyd gyda'r ceffylau duon yn mynd i gyfeiriad y gogledd, a'r rhai gwynion i'r gorllewin. Ac mae'r cerbyd gyda'r ceffylau llwyd yn mynd i'r de.”
7 Roedd y ceffylau cryfion i'w gweld yn ysu i fynd allan ar batrôl drwy'r ddaear. A dyma'r Meistr yn dweud wrthyn nhw, “Ewch! Ewch allan ar batrôl drwy'r ddaear gyfan.” Felly i ffwrdd â nhw.
8 Yna dyma fe'n galw arna i, “Edrych! Mae'r rhai sydd wedi mynd i dir y gogledd wedi tawelu fy ysbryd i yno.”
9 Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i mi:
10 “Mae Cheldai, Tobeia a Idaïa newydd ddod yn ôl o Babilon. Dos ar unwaith i dŷ Joseia fab Seffaneia, a derbyn y rhoddion mae'r bobl sy'n y gaethglud wedi ei anfon gyda nhw.
11 Cymer arian ac aur i wneud coron frenhinol a'i gosod ar ben Jehoshwa fab Iehotsadac, yr archoffeiriad.
12 Yna dywed wrtho, ‘Mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn dweud,Edrych! Mae'r dyn sy'n cael ei alw y Blaguryn yn blaguro!Mae'n mynd i adeiladu teml yr ARGLWYDD.
13 Ie, fe sy'n mynd i adeiladu teml yr ARGLWYDD! Bydd yn cael ei arwisgo, ac yn eistedd mewn ysblander fel brenin ar ei orsedd. A bydd offeiriad yn rhannu ei awdurdod, a'r ddau ohonyn nhw yn cytuno'n llwyr gyda'i gilydd.
14 Yna bydd y goron yn cael ei chadw yn nheml yr ARGLWYDD i atgoffa Cheldai, Tobeia, Idaïa a Joseia fab Seffaneia.
15 “‘Bydd pobl yn dod o bell i adeiladu teml yr ARGLWYDD. Byddwch chi'n gwybod wedyn mai'r ARGLWYDD holl-bwerus sydd wedi fy anfon i atoch chi. Bydd hyn i gyd yn digwydd os byddwch chi wir yn ufudd i'r ARGLWYDD eich Duw.’”