Sechareia 10 BNET

Yr ARGLWYDD yn addo achub

1 Gofynnwch i'r ARGLWYDD am lawadeg tymor cawodydd y gwanwyn –yr ARGLWYDD sy'n anfon y stormydd.Bydd yn anfon cawodydd trwm o lawa bydd digon o gnydau yn tyfu i bawb.

2 Mae eilun-ddelwau teuluol yn camarwain pobl,a'r rhai sy'n dweud ffortiwn yn twyllo– mae eu breuddwydion yn ffals,a'u cysur yn ddiwerth.Felly mae'r bobl yn crwydro fel defaid,heb fugail i'w hamddiffyn.

3 “Dw i wedi gwylltio'n lân gyda ‛bugeiliaid‛ y gwledydd,ac yn mynd i'w cosbi nhw – y ‛bychod‛ sydd ar y blaen!”Mae'r ARGLWYDD holl-bwerusyn mynd i ofalu am ei braidd, sef pobl Jwda,a'u gwneud nhw fel ceffylau rhyfel cryfion.

4 Ohonyn nhw y daw y garreg sylfaen,Ohonyn nhw daw'r peg i ddal y babell,Ohonyn nhw daw'r bwa rhyfel,Ohonyn nhw daw pob arweinydd cryf.

5 Byddan nhw fel milwyr dewr mewn brwydryn martsio drwy'r mwd ar faes y gâd.Am fod yr ARGLWYDD gyda nhw,byddan nhw'n ymladdac yn curo cafalri'r gelyn.

6 “Dw i'n mynd i wneud teyrnas Jwda'n gryf,ac achub pobl Israel.Dw i'n mynd i ddod â nhw'n ôla dangos trugaredd atyn nhw –bydd fel petawn i erioed wedi eu gwrthod nhw.Fi ydy'r ARGLWYDD eu Duw nhw,a dw i'n mynd i'w hateb nhw.

7 Bydd pobl Israel fel milwyr dewryn dathlu fel petaen nhw wedi meddwi.Bydd eu plant mor hapus wrth weld hynny,ac yn gorfoleddu yn yr ARGLWYDD.

8 Dw i'n mynd i chwibanui'w casglu nhw at ei gilydd –dw i'n eu gollwng nhw'n rhydd!Bydd cymaint ohonyn nhw ag o'r blaen.

9 Er i mi eu gwasgaru drwy'r gwledydd,byddan nhw'n meddwl amdana i mewn mannau pell –a byddan nhw a'u plant yn dod yn ôl

10 Bydda i'n dod â nhw yn ôl o'r Aifft,ac yn eu casglu nhw o Asyria;mynd â nhw i dir Gilead a Libanus,a fydd hyd yn oed hynny ddim digon o le.

11 Byddan nhw'n croesi'r môr stormus,a bydd e'n tawelu'r tonnau.Bydd dŵr dwfn yr Afon Nil yn sychu,balchder Asyria'n cael ei dorri,a'r Aifft yn rheoli ddim mwy.

12 Bydda i'n gwneud fy mhobl yn gryf,a byddan nhw'n byw fel dw i'n dweud,”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14