Sechareia 4 BNET

Gweledigaeth 5 – Y Menora

1 Wedyn dyma'r angel oedd wedi bod yn siarad â mi yn dod yn ôl a'm hysgwyd, fel petai'n deffro rhywun oedd wedi bod yn cysgu.

2 Gofynnodd i mi, “Beth wyt ti'n weld?” A dyma fi'n ateb, “Menora o aur pur, gyda powlen ar y top a saith lamp arni, a saith sianel yn rhedeg iddyn nhw.

3 Ac roedd dwy goeden olewydd wrth ei hymyl – un bob ochr i'r powlen.”

4 A dyma fi'n gofyn i'r angel oedd yn siarad â mi, “Beth ydy'r rhain, syr?”

5 “Wyt ti wir ddim yn gwybod?” meddai'r angel. “Nac ydw, syr,” meddwn innau.

6 Yna dwedodd wrtho i, “Dyma neges yr ARGLWYDD i Serwbabel: ‘Nid grym na chryfder sy'n llwyddo, ond fy Ysbryd i.’ Ie, dyna mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud.

7 Fyddi di fynydd mawr yn ddim rhwystr i Serwbabel! Byddi fel tir gwastad! Bydd e'n dod â'r garreg olaf i'w gosod yn ei lle, i sŵn gweiddi, ‘Mae'n hyfryd! Mae'n hyfryd!’”

8 Yna dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i mi:

9 “Serwbabel wnaeth osod sylfaeni y deml yma, a bydd e'n gorffen y gwaith.” Byddwch chi'n gwybod wedyn mai'r ARGLWYDD holl-bwerus sydd wedi fy anfon i atoch chi.

10 “Pwy wnaeth ddirmygu'r dechreuadau bach? Byddwch yn dathlu wrth weld y garreg â'r plât tin arni yn llaw Serwbabel! Felly mae'r saith lamp yn cynrychioli llygaid yr ARGLWYDD, sy'n gwylio popeth sy'n digwydd ar wyneb y ddaear.”

11 A dyma fi'n gofyn i'r angel, “Beth ydy ystyr y ddwy goeden olewydd, un bob ochr i'r menora?”

12 A gofynnais hefyd, “Beth ydy ystyr y ddau estyniad i'r coed olewydd sy'n tywallt olew euraid i'r sianeli?”

13 “Wyt ti wir ddim yn gwybod beth ydyn nhw?” meddai. “Nac ydw, syr,” meddwn innau.

14 A dyma fe'n dweud, “Maen nhw'n cynrychioli'r ddau ddyn sydd wedi eu heneinio i wasanaethu Duw, Meistr y ddaear gyfan.”

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14