Sechareia 2 BNET

Gweledigaeth 3 – Llinyn Mesur

1 Edrychais eto, a gweld dyn gyda llinyn mesur yn ei law.

2 Gofynnais iddo, “Ble ti'n mynd?” A dyma fe'n ateb, “I fapio Jerwsalem, a mesur ei hyd a'i lled.”

3 Yna dyma'r angel oedd wedi bod yn siarad â mi yn cerdded i ffwrdd, a daeth angel arall i'w gyfarfod.

4 Dwedodd hwnnw wrtho, “Brysia! Dos i ddweud wrth y dyn ifanc yna y bydd dim waliau i Jerwsalem. Bydd cymaint o bobl ac anifeiliaid yn byw ynddi!

5 Mae'r ARGLWYDD yn dweud, ‘Bydda i fy hun fel wal o dân o'i chwmpas, a bydd fy ysblander yn disgleirio o'i mewn hi.’”

Galw pobl yn ôl adre o'r gaethglud

6 “Hei, dewch! Gallwch ddianc o dir y gogledd!” meddai'r ARGLWYDD. “Ro'n i wedi eich chwalu chi i bob cyfeiriad, i'r pedwar gwynt.

7 Ond gallwch ddianc o Babilon a dod adre, bobl Seion!”

8 Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud: Ar ôl i'w ysblander ddod, bydd yn fy anfon i at y gwledydd wnaeth ymosod arnoch chi, i ddweud fod unrhyw un sy'n eich cyffwrdd chi yn cyffwrdd cannwyll ei lygad!

9 “Dw i'n mynd i'w cosbi nhw mor galed, bydd eu caethion yn cymryd popeth oddi arnyn nhw!” meddai. Byddwch chi'n gwybod wedyn mai'r ARGLWYDD holl-bwerus sydd wedi fy anfon i.

10 “Canwch a dathlwch, bobl Seion! Dw i'n dod i fyw yn eich canol chi,” meddai'r ARGLWYDD.

11 “Bydd llawer o wledydd yn uniaethu â'r ARGLWYDD bryd hynny, a byddan nhw hefyd yn bobl i mi. Yn wir, bydda i'n byw yn eich canol chi i gyd.” Byddwch chi'n gwybod wedyn mai'r ARGLWYDD holl-bwerus sydd wedi fy anfon i atoch chi.

12 Bydd yr ARGLWYDD yn cymryd Jwda fel ei ran arbennig e o'r wlad gysegredig, a bydd yn dewis Jerwsalem iddo'i hun unwaith eto.

13 Ust! Pawb drwy'r byd, byddwch dawel o flaen yr ARGLWYDD! Mae e ar fin gweithredu eto o'r lle sanctaidd ble mae'n byw.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14