Sechareia 7 BNET

Cwestiwn am Ymprydio

1 Yn y bedwaredd flwyddyn o deyrnasiad y Brenin Dareius, ar y pedwerydd o fis Cislef (sef y nawfed mis), dyma'r ARGLWYDD yn rhoi neges i Sechareia.

2 Roedd pobl Bethel wedi anfon Saretser a Regem-melech a'i ddynion i ofyn am fendith yr ARGLWYDD.

3 Roedden nhw hefyd i fynd i deml yr ARGLWYDD holl-bwerus, a gofyn i'r offeiriaid a'r proffwydi, “Ddylen ni ddal i alaru ac ymprydio yn y pumed mis, fel dŷn ni wedi gwneud ar hyd y blynyddoedd?”

4 Dyma fi'n cael neges gan yr ARGLWYDD holl-bwerus.

5 “Dywed wrth bobl y wlad, a'r offeiriaid i gyd: ‘Dych chi wedi bod yn ymprydio ac yn galaru yn y pumed a'r seithfed mis ers saith deg mlynedd. Ond ydych chi wir wedi bod yn gwneud hynny i mi?

6 Na, fel pan dych chi'n yfed a gwledda, dych chi'n ei wneud i blesio'ch hunain!’

7 Dyna'n union beth roedd yr ARGLWYDD yn ei ddweud drwy ei broffwydi bryd hynny, pan oedd Jerwsalem a'r pentrefi o'i chwmpas yn ffynnu, a pobl yn byw yn y Negef i'r de a'r iseldir yn y gorllewin.”

Y rheswm am y Gaethglud

8 A dyma Sechareia'n cael neges arall gan yr ARGLWYDD.

9 “Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus wedi bod yn ei ddweud,‘Byddwch yn deg bob amser,yn garedig a thrugarog at eich gilydd.

10 Peidiwch cam-drin gwragedd gweddwon,plant amddifad, mewnfudwyr a phobl dlawd.A peidiwch bwriadu drwg i unrhyw un arall.’

11 “Ond doedden nhw'n cymryd dim sylw. Roedden nhw'n hollol benstiff, ac yn gwrthod yn lân a gwrando.

12 Roedd eu calonnau'n galed fel diemwnt, nes eu bod yn gwrthod gwrando ar fy nysgeidiaeth, nac ar y negeseuon eraill roedd fy Ysbryd wedi eu rhoi i'r proffwydi cynnar yna eu cyhoeddi. A dyna pam wnaeth yr ARGLWYDD holl-bwerus dywallt ei lid arnyn nhw.“Dwedodd yr ARGLWYDD holl-bwerus.

13 ‘Pan oeddwn i'n galw arnyn nhw,doedden nhw ddim yn gwrando.Felly pan fyddan nhw'n galw arna i,fydda i ddim yn gwrando chwaith.

14 Yn lle hynny bydda i'n eu hysgubo nhw i ffwrddmewn storm i wledydd dieithr.’“A dyna pam mae'r wlad yma'n anial, heb neb yn mynd a dod ynddi. Nhw sydd wedi gwneud y tir hyfryd yma yn anialwch diffaith!”

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14