9 Roedd angel yna wrth ymyl, a dyma fi'n gofyn iddo, “Beth ydy ystyr hyn, syr?” A dyma fe'n ateb, “Gwna i ddangos i ti.”
10 Yna dyma'r dyn oedd yn sefyll rhwng y llwyni myrtwydd yn siarad, a dweud, “Yr ARGLWYDD sydd wedi anfon y rhain i chwilio a gweld beth sy'n digwydd ar y ddaear.”
11 A dyma'r marchogion eraill yn rhoi adroddiad i angel yr ARGLWYDD oedd yn sefyll rhwng y llwyni myrtwydd: “Dŷn ni wedi bod i edrych dros y ddaear gyfan, ac mae pobman dan reolaeth ac yn dawel.”
12 Yna dyma angel yr ARGLWYDD yn gofyn, “ARGLWYDD holl-bwerus, rwyt ti wedi bod yn flin gyda Jerwsalem a threfi eraill Jwda ers saith deg o flynyddoedd bellach. Am faint mwy, cyn i ti i ddangos trugaredd atyn nhw?”
13 A dyma'r ARGLWYDD yn ateb a dweud pethau caredig i gysuro'r angel oedd yn siarad â mi.
14 A dyma'r angel yn troi ata i, a dweud wrtho i, “Cyhoedda fod yr ARGLWYDD holl-bwerus yn dweud,‘Dw i'n teimlo i'r byw dros Jerwsalem a dros Seion.
15 Ond dw i wedi digio go iawn gyda'r gwledydd hynny sydd mor gyfforddus a hunanfodlon! Oeddwn, roeddwn i yn ddig gyda'm pobl, ond aeth y rhain yn rhy bell gyda'i creulondeb!