5 Byddan nhw fel milwyr dewr mewn brwydryn martsio drwy'r mwd ar faes y gâd.Am fod yr ARGLWYDD gyda nhw,byddan nhw'n ymladdac yn curo cafalri'r gelyn.
6 “Dw i'n mynd i wneud teyrnas Jwda'n gryf,ac achub pobl Israel.Dw i'n mynd i ddod â nhw'n ôla dangos trugaredd atyn nhw –bydd fel petawn i erioed wedi eu gwrthod nhw.Fi ydy'r ARGLWYDD eu Duw nhw,a dw i'n mynd i'w hateb nhw.
7 Bydd pobl Israel fel milwyr dewryn dathlu fel petaen nhw wedi meddwi.Bydd eu plant mor hapus wrth weld hynny,ac yn gorfoleddu yn yr ARGLWYDD.
8 Dw i'n mynd i chwibanui'w casglu nhw at ei gilydd –dw i'n eu gollwng nhw'n rhydd!Bydd cymaint ohonyn nhw ag o'r blaen.
9 Er i mi eu gwasgaru drwy'r gwledydd,byddan nhw'n meddwl amdana i mewn mannau pell –a byddan nhw a'u plant yn dod yn ôl
10 Bydda i'n dod â nhw yn ôl o'r Aifft,ac yn eu casglu nhw o Asyria;mynd â nhw i dir Gilead a Libanus,a fydd hyd yn oed hynny ddim digon o le.
11 Byddan nhw'n croesi'r môr stormus,a bydd e'n tawelu'r tonnau.Bydd dŵr dwfn yr Afon Nil yn sychu,balchder Asyria'n cael ei dorri,a'r Aifft yn rheoli ddim mwy.