1 Agor dy giatiau, Libanus,a bydd tân yn llosgi dy goed cedrwydd.
2 Bydd y coed pinwydd yn udo,am fod y coed cedrwydd wedi syrthio –mae'r coed mawreddog wedi eu difrodi.Bydd coed derw Bashan yn udo,am fod y goedwig drwchus wedi ei thorri i lawr.
3 Gwrandwch ar y bugeiliaid yn udo –am fod y borfa odidog wedi ei difetha!Gwrandwch ar y llewod ifanc yn rhuo –am fod coedwig yr Iorddonen wedi ei difa!
4 Dyma mae'r ARGLWYDD fy Nuw yn ei ddweud: “Bugeilia'r praidd sydd i fynd i'r lladd-dy.
5 Mae'r rhai sy'n eu prynu yn eu lladd heb deimlo unrhyw gywilydd. Mae'r rhai sy'n eu gwerthu yn diolch i'r ARGLWYDD am eu gwneud nhw'n gyfoethog. A dydy'r bugeiliaid yn poeni dim amdanyn nhw.