14 Yna dyma fi'n cymryd y ffon arall, "Undod", a thorri honno, i ddangos fod y berthynas rhwng Jwda ac Israel wedi darfod.
15 A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, “Cymer offer bugail eto – bugail da i ddim.
16 Dw i'n rhoi arweinydd i'r wlad yma – bugail fydd yn poeni dim am y defaid sy'n marw, nac yn mynd i chwilio am y rhai sydd wedi crwydro. Fydd e ddim yn iacháu'r rhai sydd wedi eu hanafu, nac yn bwydo'r rhai iach. Ond bydd yn bwyta cig yr ŵyn gorau, a thorri eu carnau i ffwrdd.
17 Mae ar ben ar fy mugail diwerthsy'n troi cefn ar y praidd!Bydd cleddyf yn taro ei fraichac yn anafu ei lygad dde.Bydd yn colli defnydd o'i fraich,ac yn cael ei ddallu yn ei lygad dde!”