3 Gwrandwch ar y bugeiliaid yn udo –am fod y borfa odidog wedi ei difetha!Gwrandwch ar y llewod ifanc yn rhuo –am fod coedwig yr Iorddonen wedi ei difa!
4 Dyma mae'r ARGLWYDD fy Nuw yn ei ddweud: “Bugeilia'r praidd sydd i fynd i'r lladd-dy.
5 Mae'r rhai sy'n eu prynu yn eu lladd heb deimlo unrhyw gywilydd. Mae'r rhai sy'n eu gwerthu yn diolch i'r ARGLWYDD am eu gwneud nhw'n gyfoethog. A dydy'r bugeiliaid yn poeni dim amdanyn nhw.
6 Ac o hyn ymlaen, fydda i'n poeni dim am bobl y wlad yma,” meddai'r ARGLWYDD. “Bydda i'n eu troi nhw yn erbyn ei gilydd, a rhoi pob un yng ngafael ei frenin. Bydd y rheiny'n dod â dinistr i'r wlad, a fydda i'n achub neb o'u gafael.”
7 Felly dyma fi'n bugeilio'r praidd oedd i fynd i'r lladd-dy ar ran y masnachwyr. Cymerais ddwy ffon, a galw un yn "Haelioni" a'r llall yn "Undod". Yna es i fugeilio'r praidd
8 a sacio'r tri bugail mewn un mis. Roeddwn wedi colli pob amynedd gyda'r masnachwyr, a doedd ganddyn nhw ddim parch ata i chwaith.
9 Yna dyma fi'n dweud wrthyn nhw, “Dw i ddim am ofalu am y praidd i chi! Y rhai sydd i farw, cân nhw farw. Y rhai sydd i fynd ar goll, cân nhw fynd ar goll. A'r rhai fydd yn dal yn fyw, cân nhw fwyta cnawd ei gilydd!”