1 Y neges roddodd yr ARGLWYDD am Israel – ie, neges gan yr ARGLWYDD,Yr Un wnaeth ledu'r awyra gosod sylfaeni'r ddaear,a rhoi anadl bywyd i bobl.
2 “Dw i'n mynd i wneud Jerwsalem yn gwpan feddwol. Bydd yn gwneud i'r gwledydd o'i chwmpas feddwi'n gaib pan fyddan nhw'n ymosod arni hi a Jwda.
3 “Bryd hynny bydda i'n gwneud Jerwsalem yn garreg enfawr rhy drwm i'r gwledydd ei chario. Bydd pawb sy'n ceisio ei symud yn gwneud niwed difrifol iddyn nhw eu hunain! Bydd y gwledydd i gyd yn dod yn ei herbyn.”
4 “Bryd hynny,” meddai'r ARGLWYDD, “bydda i'n gwneud i'r ceffylau rhyfel ddrysu'n llwyr, ac yn gyrru'r marchogion i banig. Bydda i'n gwylio Jwda'n ofalus. Bydd fel petai ceffylau'r gelynion i gyd yn ddall!