4 “Bryd hynny,” meddai'r ARGLWYDD, “bydda i'n gwneud i'r ceffylau rhyfel ddrysu'n llwyr, ac yn gyrru'r marchogion i banig. Bydda i'n gwylio Jwda'n ofalus. Bydd fel petai ceffylau'r gelynion i gyd yn ddall!
5 Yna bydd arweinwyr Jwda yn sylweddoli mai cryfder pobl Jerwsalem ydy eu Duw, yr ARGLWYDD holl-bwerus.
6 “Bryd hynny bydda i'n gwneud arweinwyr Jwda fel padell dân mewn pentwr o goed, neu ffagl yn llosgi mewn tas wair. Byddan nhw'n llosgi'r gwledydd sydd o'u cwmpas. A bydd pobl Jerwsalem yn setlo i lawr unwaith eto yn eu cartref, dinas Jerwsalem.
7 Bydd yr ARGLWYDD yn rhoi buddugoliaeth i fyddin Jwda gyntaf, fel bod arweinwyr Jerwsalem a llinach frenhinol Dafydd ddim yn cael mwy o anrhydedd na phobl gyffredin Jwda.
8 “Bryd hynny bydd yr ARGLWYDD ei hun yn amddiffyn pobl Jerwsalem. Bydd y person gwannaf yn eu plith fel y Brenin Dafydd ei hun, a bydd y teulu brenhinol fel Duw, neu angel yr ARGLWYDD yn mynd o'u blaenau.
9 “Bryd hynny bydda i'n mynd ati i ddinistrio'r gwledydd sy'n ymosod ar Jerwsalem!
10 Bydda i'n tywallt ar deulu brenhinol Dafydd a phobl Jerwsalem awydd i brofi haelioni Duw a'i faddeuant. Wrth edrych arna i, yr un maen nhw wedi ei drywanu, byddan nhw'n galaru fel mae pobl yn galaru am eu hunig fab. Byddan nhw'n wylo'n chwerw, fel rhieni'n wylo ar ôl colli eu hunig blentyn neu eu mab hynaf.