1 Mae dydd yr ARGLWYDD yn dod, pan fydd eich eiddo i gyd yn cael ei gymryd a'i rannu o'ch blaen chi.
2 Dw i'n mynd i gasglu'r gwledydd at ei gilydd i ryfel yn erbyn Jerwsalem. Bydd y ddinas yn cael ei choncro, eich cartrefi'n cael eu gwagio, a'ch gwragedd yn cael eu treisio. Bydd hanner y boblogaeth yn cael eu cymryd i ffwrdd yn gaethion, ond yr hanner arall yn aros yn y ddinas.
3 Ond yna bydd yr ARGLWYDD yn mynd allan i ymladd yn erbyn y gwledydd hynny, fel gwnaeth e ymladd yn y gorffennol.
4 Bryd hynny bydd e'n sefyll ar Fynydd yr Olewydd i'r dwyrain o Jerwsalem. A bydd Mynydd yr Olewydd yn hollti o'r dwyrain i'r gorllewin, gan adael dyffryn llydan. Bydd hanner y mynydd yn symud tua'r gogledd, a hanner tua'r de.
5 A byddwch chi'n dianc ar hyd y dyffryn yma yr holl ffordd i Atsel, fel gwnaethoch chi ddianc adeg y daeargryn pan oedd Wseia'n frenin ar Jwda. Yna bydd fy ARGLWYDD Dduw yn dod, a'i angylion sanctaidd gydag e.