7 “Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud: ‘Os gwnei di fyw fel dw i eisiau a gwneud dy ddyletswyddau, ti fydd yn gofalu am y deml a'r iard o'i chwmpas. Byddi'n cael rhyddid i fynd a dod o'm blaen i fel yr angylion sy'n sefyll yma.
8 Felly gwrando Jehoshwa, a'r offeiriaid sy'n gweithio gyda ti – dych chi i gyd yn arwydd fy mod i am anfon fy ngwas, y Blaguryn.
9 Am y garreg yma dw i'n ei gosod o flaen Jehoshwa (un garreg gyda saith wyneb iddi) – dw i'n mynd i grafu arni eiriau'r ARGLWYDD holl-bwerus, sy'n dweud y bydda i'n symud pechod o'r tir mewn un diwrnod.’
10 Ac meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus—‘Bryd hynny bydd pawb yn gwahodd ei gilydd i eistedd ac ymlacio dan ei winwydden a'i goeden ffigys.’”