5 A dyma'r angel yn ateb, “Dyma bedwar gwynt y nefoedd wedi eu hanfon allan gan Feistr y ddaear gyfan.
6 Mae'r cerbyd gyda'r ceffylau duon yn mynd i gyfeiriad y gogledd, a'r rhai gwynion i'r gorllewin. Ac mae'r cerbyd gyda'r ceffylau llwyd yn mynd i'r de.”
7 Roedd y ceffylau cryfion i'w gweld yn ysu i fynd allan ar batrôl drwy'r ddaear. A dyma'r Meistr yn dweud wrthyn nhw, “Ewch! Ewch allan ar batrôl drwy'r ddaear gyfan.” Felly i ffwrdd â nhw.
8 Yna dyma fe'n galw arna i, “Edrych! Mae'r rhai sydd wedi mynd i dir y gogledd wedi tawelu fy ysbryd i yno.”
9 Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i mi:
10 “Mae Cheldai, Tobeia a Idaïa newydd ddod yn ôl o Babilon. Dos ar unwaith i dŷ Joseia fab Seffaneia, a derbyn y rhoddion mae'r bobl sy'n y gaethglud wedi ei anfon gyda nhw.
11 Cymer arian ac aur i wneud coron frenhinol a'i gosod ar ben Jehoshwa fab Iehotsadac, yr archoffeiriad.