1 Yn y bedwaredd flwyddyn o deyrnasiad y Brenin Dareius, ar y pedwerydd o fis Cislef (sef y nawfed mis), dyma'r ARGLWYDD yn rhoi neges i Sechareia.
2 Roedd pobl Bethel wedi anfon Saretser a Regem-melech a'i ddynion i ofyn am fendith yr ARGLWYDD.
3 Roedden nhw hefyd i fynd i deml yr ARGLWYDD holl-bwerus, a gofyn i'r offeiriaid a'r proffwydi, “Ddylen ni ddal i alaru ac ymprydio yn y pumed mis, fel dŷn ni wedi gwneud ar hyd y blynyddoedd?”
4 Dyma fi'n cael neges gan yr ARGLWYDD holl-bwerus.
5 “Dywed wrth bobl y wlad, a'r offeiriaid i gyd: ‘Dych chi wedi bod yn ymprydio ac yn galaru yn y pumed a'r seithfed mis ers saith deg mlynedd. Ond ydych chi wir wedi bod yn gwneud hynny i mi?
6 Na, fel pan dych chi'n yfed a gwledda, dych chi'n ei wneud i blesio'ch hunain!’
7 Dyna'n union beth roedd yr ARGLWYDD yn ei ddweud drwy ei broffwydi bryd hynny, pan oedd Jerwsalem a'r pentrefi o'i chwmpas yn ffynnu, a pobl yn byw yn y Negef i'r de a'r iseldir yn y gorllewin.”