3 Roedden nhw hefyd i fynd i deml yr ARGLWYDD holl-bwerus, a gofyn i'r offeiriaid a'r proffwydi, “Ddylen ni ddal i alaru ac ymprydio yn y pumed mis, fel dŷn ni wedi gwneud ar hyd y blynyddoedd?”
4 Dyma fi'n cael neges gan yr ARGLWYDD holl-bwerus.
5 “Dywed wrth bobl y wlad, a'r offeiriaid i gyd: ‘Dych chi wedi bod yn ymprydio ac yn galaru yn y pumed a'r seithfed mis ers saith deg mlynedd. Ond ydych chi wir wedi bod yn gwneud hynny i mi?
6 Na, fel pan dych chi'n yfed a gwledda, dych chi'n ei wneud i blesio'ch hunain!’
7 Dyna'n union beth roedd yr ARGLWYDD yn ei ddweud drwy ei broffwydi bryd hynny, pan oedd Jerwsalem a'r pentrefi o'i chwmpas yn ffynnu, a pobl yn byw yn y Negef i'r de a'r iseldir yn y gorllewin.”
8 A dyma Sechareia'n cael neges arall gan yr ARGLWYDD.
9 “Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus wedi bod yn ei ddweud,‘Byddwch yn deg bob amser,yn garedig a thrugarog at eich gilydd.