9 “Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud: Dych chi'n clywed heddiw yr un peth gafodd ei ddweud gan y proffwydi pan gafodd sylfaeni teml yr ARGLWYDD holl-bwerus eu gosod i'w hadeiladu eto, sef, ‘Daliwch ati!
10 Cyn hynny doedd pobl nac anifeiliaid yn ennill dim am eu gwaith! Doedd hi ddim yn saff i bobl fynd a dod. Ro'n i'n gwneud i bawb dynnu'n groes i'w gilydd.
11 Ond nawr mae pethau'n mynd i fod yn wahanol i'r bobl yma sydd ar ôl,’—meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus.
12 ‘Bydd llonydd i bobl hau cnydau. Bydd ffrwyth yn tyfu ar y winwydden, a'r tir yn rhoi cnwd da. Bydd yr awyr yn rhoi glaw a gwlith i'r ddaear. Dyna sut fydd hi bob amser i'r bobl yma sydd ar ôl!
13 O'r blaen, roeddech chi'n cael eich ystyried yn wlad wedi ei melltithio, Israel a Jwda. Ond dw i'n mynd i'ch achub chi, a byddwch chi'n amlwg yn bobl wedi eu bendithio. Peidiwch bod ag ofn! Daliwch ati!’
14 Mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn dweud, ‘Fel roeddwn i am eich cosbi chi pan oedd eich hynafiaid yn fy ngwylltio i (a dyna'n union beth wnes i),
15 dw i bellach am wneud pethau da i bobl Jerwsalem a Jwda – felly peidiwch bod ag ofn!