6 A bydd pobl o dras cymysg yn setlo yn Ashdod.Dw i'n mynd i dorri crib y Philistiaid!
7 Yna wnân nhw byth etofwyta dim gyda gwaed ynddo,na chig wedi ei aberthu i eilun-dduwiau.Bydd y rhai sydd ar ôl yn Philistiayn dod i gredu yn ein Duw –byddan nhw fel un o deuluoedd Jwda.A bydd pobl Ecron fel y Jebwsiaid.
8 Bydda i'n gwersylla o gwmpas y deml,i'w hamddiffyn rhag y byddinoedd sy'n mynd a dod.Fydd neb yn ymosod ar fy mhobli'w gormesu nhw byth eto.Dw i fy hun yn gofalu amdanyn nhw.
9 Dathlwch bobl Seion!Gwaeddwch yn llawen, bobl Jerwsalem!Edrych! Mae dy frenin yn dod.Mae e'n gyfiawn ac yn achub;Mae'n addfwyn ac yn marchogaeth ar asyn,ie, ar ebol asen.
10 Bydda i'n symud y cerbydau rhyfel o Israel,a mynd â'r ceffylau rhyfel i ffwrdd o Jerwsalem.Bydd arfau rhyfel yn cael eu dinistrio!Yna bydd y brenin yn cyhoeddi heddwch i'r gwledydd.Bydd yn teyrnasu o fôr i fôr,ac o'r Afon Ewffrates i ben draw'r byd!
11 Yna chi, fy mhobl – oherwydd yr ymrwymiadrhyngon ni, wedi ei selio â gwaed –dw i'n mynd i ryddhau eich carcharoriono'r pydew oedd heb ddŵr ynddo.
12 Dewch adre i'r gaer ddiogel,chi garcharorion – mae gobaith!Dw i'n cyhoeddi heddiw eich bod i gaelpopeth gollwyd yn ôl – dwywaith cymaint!