1 Y Gair oedd yn bod ar y dechrau cyntaf.Roedd y Gair gyda Duw,a Duw oedd y Gair.
2 Roedd gyda Duw o'r dechrau cyntaf un.
3 Trwyddo y crëwyd popeth sy'n bod.Does dim yn bodoli ond beth greodd e.
4 Ynddo fe roedd bywyd,a'r bywyd hwnnw'n rhoi golau i bobl.
5 Mae'r golau yn dal i ddisgleirio yn y tywyllwch,a'r tywyllwch wedi methu ei ddiffodd.
6 Daeth dyn o'r enw Ioan i'r golwg. Duw oedd wedi anfon Ioan i roi tystiolaeth –
7 ac i ddweud wrth bawb am y golau, er mwyn i bawb ddod i gredu drwy'r hyn oedd yn ei ddweud.