Ioan 3 BNET

Iesu'n dysgu Nicodemus

1 Un noson ar ôl iddi dywyllu daeth un o'r arweinwyr Iddewig at Iesu. Pharisead o'r enw Nicodemus oedd y dyn.

2 Meddai wrth Iesu, “Rabbi, dŷn ni'n gwybod dy fod di'n athro wedi ei anfon gan Dduw i'n dysgu ni. Mae'r gwyrthiau rwyt ti'n eu gwneud yn profi fod Duw gyda ti.”

3 Dyma Iesu'n ymateb trwy ddweud hyn wrtho: “Cred di fi – all neb weld Duw'n teyrnasu heb fod wedi cael ei eni oddi uchod.”

4 “Sut gall unrhyw un gael ei eni pan mae'n oedolyn?” gofynnodd Nicodemus. “Allan nhw'n sicr ddim mynd i mewn i'r groth am yr ail waith i gael eu geni felly!”

5 Atebodd Iesu, “Cred di fi, all neb brofi Duw'n teyrnasu heb fod wedi cael ei eni drwy ddŵr a drwy'r Ysbryd.

6 Mae'r corff dynol yn rhoi genedigaeth i berson dynol, ond yr Ysbryd sy'n rhoi genedigaeth ysbrydol.

7 Ddylet ti ddim synnu wrth i mi ddweud, ‘Rhaid i chi gael eich geni oddi uchod.’

8 Mae'r gwynt yn chwythu i bob cyfeiriad. Rwyt yn clywed ei sŵn, ond dwyt ti ddim yn gallu dweud o ble mae'n dod nag i ble mae'n mynd. Felly mae hi hefyd gyda phawb sydd wedi eu geni drwy'r Ysbryd.”

9 “Sut mae hynny'n gallu digwydd?” gofynnodd Nicodemus.

10 “Dyma ti,” meddai Iesu, “yr athro parchus yng ngolwg pobl Israel, a dwyt ti ddim yn deall!

11 Cred di fi, dŷn ni'n siarad am beth dŷn ni'n ei wybod, ac yn dweud am beth dŷn ni wedi ei weld, ond dych chi ddim yn ein credu ni.

12 Os dw i wedi siarad â chi am bethau sy'n digwydd ar y ddaear a dych chi ddim yn credu, sut byddwch chi'n credu os gwna i siarad am bethau'r byd nefol?

13 Fi, Mab y Dyn ydy'r unig un sydd wedi dod o'r nefoedd, a does neb arall wedi mynd i'r nefoedd.

14 Cododd Moses neidr bres ar bolyn yn yr anialwch. Bydda i, Mab y Dyn, yn cael fy nghodi yr un fath.

15 Bydd pawb sy'n credu ynof fi yn cael bywyd tragwyddol.

16 “Ydy, mae Duw wedi caru'r byd cymaint nes iddo roi ei unig Fab, er mwyn i bwy bynnag sy'n credu ynddo beidio mynd i ddistryw ond cael bywyd tragwyddol.

17 Oherwydd anfonodd Duw ei Fab i achub y byd, dim i gondemnio'r byd.

18 Dydy'r rhai sy'n credu ynddo ddim yn cael eu condemnio. Ond mae'r rhai sydd ddim yn credu wedi eu condemnio eisoes, am eu bod nhw wedi gwrthod credu ym Mab unigryw Duw.

19 Dyma'r dyfarniad: Mae golau wedi dod i'r byd, ond roedd pobl yn caru'r tywyllwch yn fwy na'r golau, am eu bod nhw'n gwneud drygioni o hyd.

20 Mae pawb sy'n gwneud drygioni yn casáu'r golau. Maen nhw'n gwrthod dod allan i'r golau rhag ofn i'w gweithredoedd gael eu gweld.

21 Ond mae'r rhai sy'n ufudd i'r gwirionedd yn dod allan i'r golau, ac mae'n amlwg mai Duw sy'n rhoi'r nerth iddyn nhw wneud beth sy'n iawn.”

Tystiolaeth Ioan Fedyddiwr am Iesu

22 Ar ôl hyn gadawodd Iesu a'i ddisgyblion Jerwsalem, a mynd i gefn gwlad Jwdea. Yno bu'n treulio amser gyda nhw, ac yn bedyddio pobl.

23 Yr un pryd, roedd Ioan hefyd yn bedyddio yn Ainon ger Salim. Roedd digon o ddŵr yno, ac roedd pobl yn mynd ato yn gyson i gael eu bedyddio.

24 (Roedd hyn cyn i Ioan gael ei garcharu.)

25 Dechreuodd rhyw arweinydd Iddewig ddadlau gyda disgyblion Ioan Fedyddiwr am y ddefod o ymolchi seremonïol.

26 Dyma disgyblion Ioan yn dod ato a dweud wrtho, “Rabbi, wyt ti'n gwybod y dyn oedd gyda ti yr ochr draw i Afon Iorddonen – yr un rwyt ti wedi bod yn sôn amdano? Wel, mae e'n bedyddio hefyd, ac y mae pawb yn mynd ato fe.”

27 Atebodd Ioan, “Dim ond gwneud y gwaith mae Duw wedi ei roi iddo mae rhywun yn gallu wneud.

28 Dych chi'n gallu tystio fy mod i wedi dweud, ‘Dim fi ydy'r Meseia. Dw i wedi cael fy anfon o'i flaen e.’

29 Mae'r briodferch yn mynd at y priodfab. Mae'r gwas priodas yn edrych ymlaen at hynny, ac mae wrth ei fodd pan mae'n digwydd. A dyna pam dw i'n wirioneddol hapus.

30 Rhaid iddo fe ddod i'r amlwg; rhaid i mi fynd o'r golwg.”

Yr un ddaeth o'r nefoedd

31 Daeth Iesu o'r nefoedd, ac mae uwchlaw pawb arall. Mae unrhyw berson daearol yn siarad fel un sydd o'r ddaear. Ond mae Iesu uwchlaw popeth.

32 Mae'n dweud am beth mae wedi ei weld a'i glywed yn y nefoedd, a does neb yn ei gredu!

33 Ond mae'r rhai sydd yn credu yn hollol sicr fod Duw yn dweud y gwir.

34 Oherwydd mae Iesu yn dweud yn union beth mae Duw'n ei ddweud. Mae Duw'n rhoi'r Ysbryd iddo heb ddal dim yn ôl.

35 Mae Duw y Tad yn caru'r Mab ac wedi rhoi popeth yn ei ofal e.

36 Mae bywyd tragwyddol gan bawb sy'n credu yn y Mab, ond fydd y rhai sy'n gwrthod y Mab ddim hyd yn oed yn cael cipolwg o'r bywyd hwnnw. Bydd digofaint Duw yn aros arnyn nhw.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21