Ioan 21 BNET

Iesu a'r ddalfa wyrthiol o bysgod

1 Dyma Iesu'n ymddangos i'w ddisgyblion eto wrth Lyn Tiberias.

2 Dyma beth ddigwyddodd: Roedd criw ohonyn nhw gyda'i gilydd – Simon Pedr, Tomos (oedd yn cael ei alw ‛Yr Efaill‛), Nathanael o Cana Galilea, meibion Sebedeus, a dau ddisgybl arall.

3 “Dw i'n mynd i bysgota,” meddai Simon Pedr wrth y lleill. A dyma nhw'n ateb, “Dŷn ni am ddod hefyd.” Felly dyma nhw'n mynd allan mewn cwch, ond wnaethon nhw ddal dim drwy'r nos.

4 Pan oedd hi yn dechrau gwawrio dyma Iesu'n sefyll ar lan y llyn, ond doedd y disgyblion ddim yn gwybod mai Iesu oedd yno.

5 Galwodd arnyn nhw, “Oes gynnoch chi bysgod ffrindiau?”“Nac oes,” medden nhw.

6 Yna dwedodd Iesu, “Taflwch y rhwyd ar ochr dde'r cwch, a byddwch yn dal rhai.” Dyma nhw'n gwneud hynny, a chafodd cymaint o bysgod eu dal nes eu bod nhw'n methu tynnu'r rhwyd yn ôl i'r cwch.

7 Dyma'r disgybl roedd Iesu'n ei garu'n fawr yn dweud wrth Pedr, “Yr Arglwydd ydy e!” A dyma Simon Pedr yn rhwymo dilledyn am ei ganol (achos doedd ganddo ddim byd amdano), yna neidio i'r dŵr.

8 Daeth y disgyblion eraill ar ei ôl yn y cwch, gan lusgo'r rhwyd oedd yn llawn o bysgod ar eu holau. (Doedden nhw ond ryw 90 metr o'r lan.)

9 Ar y lan roedd tân golosg a physgod yn coginio arno, ac ychydig fara.

10 “Dewch a rhai o'r pysgod dych chi newydd eu dal,” meddai Iesu wrthyn nhw.

11 Felly dyma Simon Pedr yn mynd i mewn i'r cwch a llusgo'r rhwyd i'r lan. Roedd hi'n llawn o bysgod mawrion, 153 ohonyn nhw, ond er hynny wnaeth y rhwyd ddim rhwygo.

12 “Dewch i gael brecwast,” meddai Iesu. Doedd dim un o'r disgyblion yn meiddio gofyn iddo, “Pwy wyt ti?” – roedden nhw yn gwybod yn iawn mai'r Arglwydd oedd e.

13 Yna dyma Iesu'n cymryd y bara a'i roi iddyn nhw, a gwneud yr un peth gyda'r pysgod.

14 Dyma'r trydydd tro i Iesu adael i'w ddisgyblion ei weld ar ôl iddo ddod yn ôl yn fyw.

Iesu'n comisiynu Pedr

15 Pan roedden nhw wedi gorffen bwyta, dyma Iesu'n troi at Simon Pedr a dweud, “Simon fab Ioan, wyt ti wir yn fy ngharu i fwy na'r rhain?”“Ydw, Arglwydd,” atebodd, “rwyt ti'n gwybod mod i'n dy garu di.”Dwedodd Iesu wrtho, “Gofala am fy ŵyn.”

16 Yna gofynnodd Iesu eto, “Simon fab Ioan, wyt ti wir yn fy ngharu i?”Dwedodd eto, “Ydw, Arglwydd, rwyt ti'n gwybod mod i'n dy garu di.”Meddai Iesu, “Arwain fy nefaid.”

17 Yna gofynnodd Iesu iddo'r drydedd waith, “Simon fab Ioan, wyt ti'n fy ngharu i?” Roedd Pedr yn ddigalon fod Iesu wedi gofyn eto'r drydedd waith, “Wyt ti'n fy ngharu i?” “Arglwydd,” meddai, “rwyt ti'n gwybod pob peth; rwyt ti'n gwybod mod i'n dy garu di.” Yna dwedodd Iesu, “Gofala am fy nefaid.

18 Cred di fi, pan oeddet ti'n ifanc roeddet yn gwisgo ac yn mynd i ble bynnag oeddet ti eisiau; ond pan fyddi'n hen byddi'n estyn allan dy freichiau, a bydd rhywun arall yn dy rwymo di ac yn dy arwain i rywle dwyt ti ddim eisiau mynd.”

19 (Dwedodd Iesu hyn i ddangos sut roedd Pedr yn mynd i anrhydeddu Duw trwy farw.) Yna dyma Iesu'n dweud wrtho, “Dilyn fi.”

20 Dyma Pedr yn troi a gweld y disgybl roedd Iesu yn ei garu yn eu dilyn nhw. (Dyma'r un oedd wedi pwyso'n ôl at Iesu yn y swper a gofyn, “Arglwydd, pwy sy'n mynd i dy fradychu di?”)

21 Pan welodd Pedr e, gofynnodd i Iesu, “Arglwydd, beth fydd yn digwydd iddo fe?”

22 Atebodd Iesu, “Petawn i am iddo aros yn fyw nes i mi ddod yn ôl, beth ydy hynny i ti? Dilyn di fi.”

23 A dyna pam aeth y stori ar led ymhlith y credinwyr fod y disgybl hwnnw ddim yn mynd i farw. Ond dim dweud ei fod e ddim yn mynd i farw wnaeth Iesu; dim ond dweud, “Petawn i am iddo aros yn fyw nes i mi ddod yn ôl, beth ydy hynny i ti?”

24 Fi ydy'r disgybl hwnnw – yr un welodd hyn i gyd ac sydd wedi ysgrifennu am y cwbl. Ac mae popeth dw i'n ei ddweud yn wir.

25 Gwnaeth Iesu lawer o bethau eraill hefyd. Petai hanes pob un ohonyn nhw yn cael ei gadw, dw i ddim yn meddwl y byddai'r byd i gyd yn gallu dal yr holl lyfrau fyddai'n cael eu hysgrifennu!

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21