Ioan 18 BNET

Arestio Iesu

1 Ar ôl gorffen gweddïo, dyma Iesu'n croesi Dyffryn Cidron gyda'i ddisgyblion. Dyma nhw'n dod at ardd olewydd oedd yno ac yn mynd i mewn iddi.

2 Roedd Jwdas, y bradwr, yn gwybod am y lle, am fod Iesu a'i ddisgyblion wedi cyfarfod yno lawer gwaith.

3 Felly aeth Jwdas i'r ardd, gyda mintai o filwyr a swyddogion diogelwch wedi eu hanfon gan y prif offeiriaid a'r Phariseaid. Roedden nhw'n cario ffaglau a lanternau ac arfau.

4 Roedd Iesu'n gwybod yn union beth oedd yn mynd i ddigwydd iddo, felly aeth atyn nhw a gofyn, “Am bwy dych chi'n edrych?”

5 “Iesu o Nasareth,” medden nhw. “Fi ydy e,” meddai Iesu. (A dyna lle roedd Jwdas, y bradwr, yn sefyll yno gyda nhw!)

6 Pan ddwedodd Iesu “Fi ydy e,” dyma nhw'n symud at yn ôl ac yn syrthio ar lawr.

7 Gofynnodd iddyn nhw eto, “Pwy dych chi eisiau?”A dyma nhw'n dweud “Iesu o Nasareth.”

8 “Dw i wedi dweud wrthoch chi mai fi ydy e,” meddai Iesu. “Felly os mai fi ydy'r un dych chi'n edrych amdano, gadewch i'r dynion hyn fynd yn rhydd.”

9 (Er mwyn i beth ddwedodd e yn gynharach ddod yn wir: “Dw i ddim wedi colli neb o'r rhai roist ti i mi.”)

10 Yna dyma Simon Pedr yn tynnu cleddyf allan ac yn taro gwas yr archoffeiriad, a thorri ei glust dde i ffwrdd. (Malchus oedd enw'r gwas.)

11 “Cadw dy gleddyf!” meddai Iesu wrtho, “Wyt ti'n meddwl fy mod i ddim yn barod i ddioddef, ac yfed o'r cwpan chwerw mae'r Tad wedi ei roi i mi?”

Mynd â Iesu at Annas

12 Dyma'r fintai o filwyr a'i chapten a swyddogion yr arweinwyr Iddewig yn arestio Iesu a'i rwymo.

13 Aethon nhw ag e at Annas gyntaf, sef tad-yng-nghyfraith Caiaffas oedd yn archoffeiriad y flwyddyn honno.

14 (Caiaffas oedd yr un oedd wedi awgrymu i'r arweinwyr Iddewig y byddai'n well i un person farw dros y bobl.)

Pedr yn gwadu y tro cyntaf

15 Dyma Simon Pedr ac un arall o'r disgyblion yn mynd ar ôl Iesu. Roedd yr archoffeiriad yn nabod y disgybl arall hwnnw yn dda, felly cafodd fynd i mewn gyda Iesu i iard tŷ'r archoffeiriad.

16 Ond roedd rhaid i Pedr aros wrth y drws y tu allan. Yna dyma'r disgybl oedd yr archoffeiriad yn ei nabod, yn mynd yn ôl ac yn perswadio'r ferch oedd yn cadw'r drws i adael Pedr i mewn.

17 Ond meddai hi wrth Pedr, “Onid wyt ti'n un o ddisgyblion y dyn yna?” Ond dyma Pedr yn ateb, “Nac ydw.”

18 Roedd hi'n oer, ac roedd y gweithwyr a'r swyddogion diogelwch yn sefyll o gwmpas tân golosg roedden nhw wedi ei gynnau i gadw'n gynnes. Felly dyma Pedr hefyd yn mynd i sefyll gyda nhw i gadw'n gynnes.

Yr archoffeiriad yn holi Iesu

19 Yn y cyfamser roedd Iesu'n cael ei groesholi gan yr archoffeiriad am beth roedd yn ei ddysgu, ac am ei ddisgyblion.

20 “Dw i wedi bod yn siarad yn gwbl agored,” meddai Iesu. “Roeddwn i bob amser yn dysgu yn y synagogau neu yn y deml, lle roedd y bobl yn cwrdd. Doedd gen i ddim cyfrinachau.

21 Pam wyt ti'n fy holi i? Hola'r bobl oedd yn gwrando arna i. Maen nhw'n gwybod beth dw i wedi ei ddweud.”

22 Pan atebodd Iesu felly dyma un o'r swyddogion oedd yno yn ei daro ar draws ei wyneb. “Ai dyna sut wyt ti'n ateb yr archoffeiriad!” meddai.

23 “Os dwedais i rywbeth o'i le,” meddai Iesu, “dywed wrth bawb beth. Ond os oedd beth ddwedais i yn iawn, pam wnest ti fy nharo i?”

24 Yna anfonodd Annas e, yn dal wedi ei rwymo, at Caiaffas yr archoffeiriad.

Pedr yn gwadu yr ail a'r drydedd waith

25 Tra roedd Simon Pedr yn sefyll wrth y tân yn cadw'n gynnes, gofynnwyd iddo eto, “Wyt ti ddim yn un o'i ddisgyblion e?”Ond gwadu wnaeth Pedr, “Nac ydw,” meddai.

26 Wedyn dyma un o weithwyr yr archoffeiriad yn ei herio (perthynas i'r dyn oedd Pedr wedi torri ei glust i ffwrdd), “Onid ti welais i gydag e yn yr ardd?”

27 Ond gwadu wnaeth Pedr eto, a'r foment honno dyma'r ceiliog yn canu.

Iesu o flaen Peilat

28 Aeth yr arweinwyr Iddewig a Iesu oddi wrth Caiaffas i'r pencadlys Rhufeinig. Erbyn hyn roedd hi'n dechrau gwawrio. Aethon nhw ddim i mewn i'r pencadlys, am eu bod nhw ddim eisiau torri'r rheolau ynglŷn â glendid seremonïol; roedden nhw eisiau gallu bwyta swper y Pasg.

29 Felly daeth Peilat allan atyn nhw a gofyn, “Beth ydy'r cyhuddiadau yn erbyn y dyn hwn?”

30 “Fydden ni ddim wedi ei drosglwyddo i ti oni bai ei fod wedi troseddu,” medden nhw.

31 “Felly cymerwch chi e,” meddai Peilat. “Defnyddiwch eich cyfraith eich hunain i'w farnu.” “Ond does gynnon ni mo'r awdurdod i'w ddedfrydu i farwolaeth,” medden nhw.

32 (Digwyddodd hyn fel bod beth ddwedodd Iesu am y ffordd roedd yn mynd i farw yn dod yn wir.)

33 Aeth Peilat yn ôl i mewn i'r palas, a galwodd Iesu i ymddangos o'i flaen a dweud wrtho, “Felly, ti ydy Brenin yr Iddewon, ie?”

34 “Wyt ti'n gofyn ohonot ti dy hun,” meddai Iesu, “neu ai eraill sydd wedi dweud hyn amdana i?”

35 “Dw i ddim yn Iddew!” atebodd Peilat. “Dy bobl di a'u prif offeiriaid sydd wedi dy drosglwyddo di i mi. Beth yn union wyt ti wedi ei wneud?”

36 Atebodd Iesu, “Dydy nheyrnas i ddim yn dod o'r byd yma. Petai hi, byddai fy ngweision wedi ymladd yn galed i'm cadw i rhag cael fy arestio gan yr awdurdodau Iddewig. Mae fy nheyrnas i yn dod o rywle arall.”

37 “Felly rwyt ti yn frenin!” meddai Peilat.Atebodd Iesu, “Ti sy'n defnyddio'r gair ‛brenin‛. Y rheswm pam ges i fy ngeni, a pham dw i wedi dod i'r byd ydy i dystio i beth sy'n wir go iawn. Mae pawb sydd ar ochr y gwir yn gwrando arna i.”

38 “Beth ydy gwirionedd?” meddai Peilat.Yna aeth allan at yr arweinwyr Iddewig eto a dweud, “Dw i ddim yn ei gael yn euog o unrhyw drosedd.

Dedfrydu Iesu i Farwolaeth

39 Mae'n arferiad i mi ryddhau un carcharor i chi adeg y Pasg. Ydych chi eisiau i mi ryddhau hwn, ‛Brenin yr Iddewon‛?”

40 “Na!” medden nhw, gan weiddi eto, “Dim hwn. Barabbas dŷn ni eisiau!” (Terfysgwr oedd Barabbas.)

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21