Ioan 17 BNET

Iesu'n gweddïo drosto'i hun

1 Ar ôl dweud hyn, edrychodd Iesu i fyny i'r nefoedd a dechrau gweddïo: “Dad, mae'r amser iawn wedi dod. Anrhydedda dy Fab, er mwyn i mi, y Mab hwnnw, ddangos dy ysblander di.

2 Rwyt wedi rhoi awdurdod i mi dros y ddynoliaeth gyfan, i mi roi bywyd tragwyddol i'r rhai roist ti i berthyn i mi.

3 Dyma beth ydy bywyd tragwyddol: iddyn nhw dy nabod di, yr unig Dduw sy'n bodoli go iawn, a Iesu y Meseia wyt ti wedi ei anfon.

4 Dw i wedi dy anrhydeddu di ar y ddaear drwy orffen y gwaith roist ti i mi.

5 Yn awr, Dad, rho i mi eto yr anrhydedd a'r ysblander oedd gen i pan oeddwn gyda ti hyd yn oed cyn i'r byd ddechrau.

Iesu'n gweddïo dros ei ddisgyblion

6 “Dw i wedi dangos sut un wyt ti i'r rhai roist ti i mi allan o'r byd. Dy bobl di oedden nhw, a dyma ti'n eu rhoi nhw i mi, ac maen nhw wedi derbyn dy neges di.

7 Bellach maen nhw'n gwybod mai oddi wrthyt ti mae popeth wyt wedi ei roi i mi wedi dod.

8 Dw i wedi dweud wrthyn nhw beth ddwedaist ti wrtho i, ac maen nhw wedi derbyn y cwbl. Maen nhw'n gwybod go iawn fy mod wedi dod oddi wrthyt ti, ac yn credu mai ti sydd wedi fy anfon i.

9 Dw i'n gweddïo drostyn nhw. Dw i ddim yn gweddïo dros y byd, ond dros y rhai rwyt ti wedi eu rhoi i berthyn i mi. Dw i'n gweddïo drostyn nhw am mai dy bobl di ydyn nhw.

10 Dy bobl di ydy pawb sydd gen i, a'm pobl i ydy dy bobl di, a dw i'n cael fy anrhydeddu trwyddyn nhw.

11 Dw i ddim yn aros yn y byd ddim mwy, ond maen nhw yn dal yn y byd. Dw i'n dod atat ti. Dad Sanctaidd, cadw'r rhai wyt ti wedi eu rhoi i mi yn saff ac yn ffyddlon i ti dy hun, er mwyn iddyn nhw ddod yn un fel dŷn ni'n un.

12 Tra dw i wedi bod gyda nhw, dw i wedi eu cadw nhw'n saff ac yn ffyddlon i ti. A chafodd dim un ohonyn nhw ei golli ar wahân i'r un oedd ar ei ffordd i ddinistr, er mwyn i'r ysgrifau sanctaidd ddod yn wir.

13 “Dw i'n dod atat ti nawr, ond dw i'n dweud y pethau hyn tra dw i'n dal yn y byd er mwyn iddyn nhw gael bod yn wirioneddol hapus fel fi.

14 Dw i wedi rhoi dy neges di iddyn nhw ac mae'r byd wedi eu casáu nhw, am eu bod nhw ddim yn perthyn i'r byd fwy na dw i'n perthyn i'r byd.

15 Dw i ddim yn gweddïo ar i ti eu cymryd nhw allan o'r byd, ond ar i ti eu hamddiffyn nhw rhag yr un drwg.

16 Dyn nhw ddim yn perthyn i'r byd fwy na dw i'n perthyn i'r byd.

17 Cysegra nhw i ti dy hun drwy'r gwirionedd; mae dy neges di yn wir.

18 Dw i yn eu hanfon nhw allan i'r byd yn union fel wnest ti fy anfon i.

19 Dw i'n cysegru fy hun er eu mwyn nhw, er mwyn iddyn nhw fod wedi eu cysegru drwy'r gwirionedd.

Iesu'n gweddïo dros bawb fydd yn credu

20 “Nid dim ond drostyn nhw dw i'n gweddïo. Dw i'n gweddïo hefyd dros bawb fydd yn credu ynof fi drwy eu neges nhw;

21 dw i'n gweddïo y byddan nhw i gyd yn un, Dad, yn union fel rwyt ti a fi yn un. Dw i am iddyn nhw hefyd fod ynon ni er mwyn i'r byd gredu mai ti sydd wedi fy anfon i.

22 Dw i wedi rhoi iddyn nhw rannu'r ysblander a roist ti i mi, er mwyn iddyn nhw fod yn un fel dŷn ni yn un:

23 Fi ynddyn nhw a ti ynof fi. Dw i am iddyn nhw gael eu dwyn i undod llawn i adael i'r byd wybod mai ti sydd wedi fy anfon i, a dy fod ti wedi eu caru nhw yn union fel rwyt wedi fy ngharu i.

24 “Dad, dw i am i'r rhai wyt ti wedi eu rhoi i mi fod gyda mi ble rydw i, iddyn nhw weld fy ysblander i – yr ysblander roist ti i mi am dy fod di wedi fy ngharu i ers cyn i'r byd gael ei greu.

25 “Dad Cyfiawn, dydy'r byd ddim yn dy nabod di, ond dw i yn dy nabod, ac mae'r rhain wedi dod i wybod mai ti sydd wedi fy anfon i.

26 Dw i wedi dangos pwy wyt ti iddyn nhw, a bydda i yn dal ati i wneud hynny, er mwyn iddyn nhw garu eraill fel rwyt ti wedi fy ngharu i, ac i mi fy hun fod ynddyn nhw.”

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21