Ioan 9 BNET

Iesu'n iacháu dyn wedi ei eni'n ddall

1 Un diwrnod roedd Iesu'n mynd heibio, a gwelodd ddyn oedd wedi bod yn ddall ers iddo gael ei eni.

2 Gofynnodd y disgyblion iddo, “Rabbi, pwy wnaeth bechu i achosi i'r dyn yma gael ei eni'n ddall – fe ei hun, neu ei rieni?”

3 “Dim ei bechod e na phechod ei rieni sy'n gyfrifol,” meddai Iesu. “Digwyddodd er mwyn i allu Duw gael ei arddangos yn ei fywyd.

4 Tra mae hi'n dal yn olau dydd, rhaid i ni wneud gwaith yr un sydd wedi fy anfon i. Mae'r nos yn dod, pan fydd neb yn gallu gweithio.

5 Tra dw i yn y byd, fi ydy golau'r byd.”

6 Ar ôl dweud hyn, poerodd ar lawr a gwneud mwd allan o'r poeryn, ac wedyn ei rwbio ar lygaid y dyn dall.

7 Yna meddai wrtho, “Dos i ymolchi i Bwll Siloam” (enw sy'n golygu ‛Anfonwyd‛). Felly aeth y dyn i ymolchi, a phan ddaeth yn ôl roedd yn gallu gweld!

8 Dyma'i gymdogion, a phawb oedd yn ei nabod fel y dyn oedd yn cardota yn gofyn, “Onid hwn ydy'r dyn oedd yn arfer cardota?”

9 Roedd rhai yn dweud “Ie”, ac eraill yn dweud, “Nage – er, mae'n debyg iawn iddo.”Ond dyma'r dyn ei hun yn dweud, “Ie, fi ydy e.”

10 “Ond, sut wyt ti'n gallu gweld?” medden nhw.

11 “Dyma'r dyn maen nhw'n ei alw'n Iesu yn gwneud mwd,” meddai, “ac yn ei rwbio ar fy llygaid. Yna dwedodd wrtho i am fynd i Siloam i ymolchi. A dyna wnes i. Ar ôl i mi ymolchi roeddwn i'n gallu gweld!”

12 “Ble mae e?” medden nhw.“Wn i ddim,” meddai.

Y Phariseaid yn archwilio'r iachâd

13 Dyma nhw'n mynd â'r dyn oedd wedi bod yn ddall at y Phariseaid.

14 Roedd hi'n ddydd Saboth Iddewig pan oedd Iesu wedi gwneud y mwd i iacháu'r dyn.

15 Felly dyma'r Phariseaid hefyd yn dechrau holi'r dyn sut oedd e'n gallu gweld.Atebodd y dyn, “Rhoddodd fwd ar fy llygaid, es i ymolchi, a dw i'n gweld.”

16 Meddai rhai o'r Phariseaid, “All e ddim bod yn negesydd Duw, am ei fod e ddim yn cadw rheolau'r Saboth.”Ond roedd eraill yn dweud, “Sut mae rhywun sy'n bechadur cyffredin yn gallu gwneud y fath arwyddion gwyrthiol?” Felly roedden nhw'n anghytuno â'i gilydd.

17 Yn y diwedd dyma nhw'n troi at y dyn dall eto, “Beth sydd gen ti i'w ddweud amdano? Dy lygaid di agorodd e.”Atebodd y dyn, “Mae'n rhaid ei fod yn broffwyd.”

18 Ond roedd yr arweinwyr Iddewig yn gwrthod credu ei fod wedi bod yn ddall nes i'w rieni ddod yno.

19 “Ai eich mab chi ydy hwn?” medden nhw. “Gafodd e ei eni'n ddall? Ac os felly, sut mae e'n gallu gweld nawr?”

20 “Ein mab ni ydy e”, atebodd y rhieni, “a dŷn ni'n gwybod ei fod wedi cael ei eni'n ddall.

21 Ond does gynnon ni ddim syniad sut mae'n gallu gweld bellach, na phwy wnaeth iddo allu gweld. Gofynnwch iddo fe. Mae'n ddigon hen! Gall siarad drosto'i hun.”

22 (Y rheswm pam roedd ei rieni'n ymateb fel hyn oedd am fod arnyn nhw ofn yr arweinwyr Iddewig. Roedd yr awdurdodau Iddewig wedi cytuno y byddai unrhyw un fyddai'n cyffesu mai Iesu oedd y Meseia yn cael ei ddiarddel o'r synagog.

23 Felly dyna pam ddwedodd y rhieni, “Mae'n ddigon hen. Gofynnwch iddo fe.”)

24 Dyma nhw'n galw'r dyn oedd wedi bod yn ddall o'u blaenau am yr ail waith, ac medden nhw wrtho “Dywed y gwir o flaen Duw. Dŷn ni'n gwybod fod y dyn wnaeth dy iacháu di yn bechadur.”

25 Atebodd e, “Wn i ddim os ydy e'n bechadur a'i peidio, ond dw i'n hollol sicr o un peth – roeddwn i'n ddall, a bellach dw i'n gallu gweld!”

26 Dyma nhw'n gofyn iddo eto, “Beth yn union wnaeth e? Sut agorodd e dy lygaid di?”

27 Atebodd y dyn, “Dw i wedi dweud unwaith, a dych chi ddim wedi gwrando. Pam dych chi eisiau mynd trwy'r peth eto? Ydych chi hefyd eisiau bod yn ddilynwyr iddo?”

28 Yna dyma nhw'n dechrau rhoi pryd o dafod iddo, “Ti sy'n ddilynwr i'r boi! Disgyblion Moses ydyn ni!

29 Dŷn ni'n gwybod fod Duw wedi siarad â Moses, ond wyddon ni ddim byd am hwn – dim hyd yn oed o ble mae'n dod!”

30 “Wel, mae hynny'n anhygoel!” meddai'r dyn, “Rhoddodd y dyn fy ngolwg i mi, a dych chi ddim yn gwybod o ble mae'n dod.

31 Dŷn ni'n gwybod bod Duw ddim yn gwrando ar bechaduriaid, ond ar y bobl dduwiol hynny sy'n gwneud beth mae e eisiau.

32 Does neb erioed wedi clywed am rywun yn agor llygaid person gafodd ei eni'n ddall!

33 Oni bai fod y dyn wedi dod oddi wrth Dduw, allai e wneud dim byd.”

34 “Wyt ti'n ceisio rhoi darlith i ni?” medden nhw, “Cest ti dy eni mewn pechod a dim byd arall!” A dyma nhw'n ei ddiarddel.

Dallineb Ysbrydol

35 Clywodd Iesu eu bod nhw wedi diarddel y dyn, ac ar ôl dod o hyd iddo, gofynnodd iddo, “Wyt ti'n credu ym Mab y Dyn?”

36 “Pwy ydy hwnnw, syr?” meddai'r dyn. “Dywed wrtho i, er mwyn i mi gredu ynddo.”

37 Dwedodd Iesu, “Rwyt ti wedi ei weld; fi sy'n siarad â ti ydy e.”

38 Yna dwedodd y dyn, “Arglwydd, dw i'n credu,” a phlygu o'i flaen i'w addoli.

39 Dwedodd Iesu, “Mae'r ffaith fy mod i wedi dod i'r byd yn arwain i farn. Mae'r rhai sy'n ddall yn cael gweld a'r rhai sy'n gweld yn cael eu dallu.”

40 Roedd rhai o'r Phariseaid yno pan ddwedodd hyn, ac medden nhw, “Beth? Dŷn ni ddim yn ddall, ydyn ni?”

41 Atebodd Iesu, “Petaech chi'n ddall, fyddech chi ddim yn euog o bechu; ond am eich bod yn honni eich bod yn gweld, dych chi'n euog, ac yn aros felly.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21