17 Rhoddodd Moses Gyfraith Duw i ni; wedyn dyma rodd hael Duw a'i wirionedd yn dod i ni yn Iesu y Meseia.
18 Does neb erioed wedi gweld Duw, ond mae'r Mab unigryw hwn (sy'n Dduw ei hun, gyda'r berthynas agosaf posib â'r Tad), wedi dweud yn glir amdano.
19 Dyma'r arweinwyr Iddewig yn Jerwsalem yn anfon offeiriaid a Lefiaid at Ioan Fedyddiwr i ofyn iddo pwy oedd.
20 Dwedodd Ioan yn blaen wrthyn nhw, “Dim fi ydy'r Meseia.”
21 “Felly pwy wyt ti?” medden nhw. “Ai Elias y proffwyd wyt ti?”“Nage” meddai Ioan.“Ai y Proffwyd soniodd Moses amdano wyt ti?”Atebodd eto, “Na.”
22 “Felly, pwy wyt ti'n ddweud wyt ti?” medden nhw yn y diwedd, “i ni gael rhoi rhyw ateb i'r rhai sydd wedi'n hanfon ni. Beth fyddet ti'n ei ddweud amdanat ti dy hun?”
23 Atebodd Ioan drwy ddyfynnu geiriau'r proffwyd Eseia: “Llais yn gweiddi'n uchel yn yr anialwch, ‘Cliriwch y ffordd i'r Arglwydd!’ Dyna ydw i.”