19 Dyma'r arweinwyr Iddewig yn Jerwsalem yn anfon offeiriaid a Lefiaid at Ioan Fedyddiwr i ofyn iddo pwy oedd.
20 Dwedodd Ioan yn blaen wrthyn nhw, “Dim fi ydy'r Meseia.”
21 “Felly pwy wyt ti?” medden nhw. “Ai Elias y proffwyd wyt ti?”“Nage” meddai Ioan.“Ai y Proffwyd soniodd Moses amdano wyt ti?”Atebodd eto, “Na.”
22 “Felly, pwy wyt ti'n ddweud wyt ti?” medden nhw yn y diwedd, “i ni gael rhoi rhyw ateb i'r rhai sydd wedi'n hanfon ni. Beth fyddet ti'n ei ddweud amdanat ti dy hun?”
23 Atebodd Ioan drwy ddyfynnu geiriau'r proffwyd Eseia: “Llais yn gweiddi'n uchel yn yr anialwch, ‘Cliriwch y ffordd i'r Arglwydd!’ Dyna ydw i.”
24 Yna dyma'r rhai ohonyn nhw oedd yn Phariseaid
25 yn gofyn iddo, “Ond pa hawl sydd gen ti i fedyddio os mai dim ti ydy'r Meseia, nag Elias, na'r Proffwyd?”