31 Doeddwn i ddim yn gwybod mai fe oedd yr un. Ond dw i wedi bod yn bedyddio â dŵr er mwyn i Israel ei weld e.”
32 Yna dyma Ioan yn dweud hyn: “Gwelais yr Ysbryd Glân yn disgyn o'r nefoedd fel colomen ac yn aros arno.
33 Cyn hynny doeddwn i ddim yn gwybod mai fe oedd yr un, ond roedd yr un anfonodd fi i fedyddio â dŵr wedi dweud wrtho i, ‘Os gweli di'r Ysbryd yn dod i lawr ac yn aros ar rywun, dyna'r un fydd yn bedyddio â'r Ysbryd Glân.’
34 A dyna welais i'n digwydd! Dw i'n dweud wrthoch chi mai Iesu ydy Mab Duw.”
35 Roedd Ioan yno eto'r diwrnod wedyn gyda dau o'i ddisgyblion.
36 Wrth i Iesu fynd heibio, roedd Ioan yn syllu arno, ac meddai “Edrychwch! Oen Duw!”
37 Dyma'r ddau ddisgybl glywodd beth ddwedodd Ioan yn mynd i ddilyn Iesu.