39 Atebodd Iesu nhw, “Dewch i weld.”Felly dyma nhw'n mynd i weld lle roedd yn aros, a threulio gweddill y diwrnod gydag e. Roedd hi tua pedwar o'r gloch y p'nawn erbyn hynny.
40 Andreas (brawd Simon Pedr) oedd un o'r ddau,
41 a'r peth cyntaf wnaeth wedyn oedd mynd i chwilio am ei frawd Simon, a dweud wrtho, “Dŷn ni wedi dod o hyd i'r Meseia” (gair Hebraeg sy'n golygu ‛Yr un wedi ei eneinio'n frenin‛).
42 Aeth Andreas ag e i gyfarfod Iesu. Edrychodd Iesu arno, ac yna dweud, “Simon fab Ioan wyt ti. Ond Ceffas fyddi di'n cael dy alw,” (enw sy'n golygu'r un peth â Pedr, sef ‛craig‛).
43 Y diwrnod wedyn penderfynodd Iesu fynd i Galilea. Daeth o hyd i Philip, a dweud wrtho, “Tyrd, dilyn fi.”
44 Roedd Philip hefyd (fel Andreas a Pedr), yn dod o dref Bethsaida.
45 Yna aeth Philip i edrych am Nathanael a dweud wrtho, “Dŷn ni wedi dod o hyd i'r dyn yr ysgrifennodd Moses amdano yn y Gyfraith, a'r un soniodd y proffwydi amdano hefyd – Iesu, mab Joseff o Nasareth.”