42 Aeth Andreas ag e i gyfarfod Iesu. Edrychodd Iesu arno, ac yna dweud, “Simon fab Ioan wyt ti. Ond Ceffas fyddi di'n cael dy alw,” (enw sy'n golygu'r un peth â Pedr, sef ‛craig‛).
43 Y diwrnod wedyn penderfynodd Iesu fynd i Galilea. Daeth o hyd i Philip, a dweud wrtho, “Tyrd, dilyn fi.”
44 Roedd Philip hefyd (fel Andreas a Pedr), yn dod o dref Bethsaida.
45 Yna aeth Philip i edrych am Nathanael a dweud wrtho, “Dŷn ni wedi dod o hyd i'r dyn yr ysgrifennodd Moses amdano yn y Gyfraith, a'r un soniodd y proffwydi amdano hefyd – Iesu, mab Joseff o Nasareth.”
46 “Nasareth?” meddai Nathanael, “– ddaeth unrhyw beth da o'r lle yna erioed?”“Tyrd i weld,” meddai Philip.
47 Pan welodd Iesu Nathanael yn dod ato, meddai amdano, “Dyma ddyn fyddai'n twyllo neb – Israeliad go iawn!”
48 “Sut wyt ti'n gwybod sut un ydw i?” meddai Nathanael.Atebodd Iesu, “Gwelais di'n myfyrio dan y goeden ffigys, cyn i Philip dy alw di.”