5 Mae'r golau yn dal i ddisgleirio yn y tywyllwch,a'r tywyllwch wedi methu ei ddiffodd.
6 Daeth dyn o'r enw Ioan i'r golwg. Duw oedd wedi anfon Ioan i roi tystiolaeth –
7 ac i ddweud wrth bawb am y golau, er mwyn i bawb ddod i gredu drwy'r hyn oedd yn ei ddweud.
8 Dim Ioan ei hun oedd y golau; dim ond dweud wrth bobl am y golau roedd e'n wneud.
9 Roedd y golau go iawn, sy'n rhoi golau i bawb, ar fin dod i'r byd.
10 Roedd y Gair yn y byd,ac er mai fe greodd y byd,wnaeth pobl y byd mo'i nabod.
11 Daeth i'w wlad ei hun,a chael ei wrthodgan ei bobl ei hun.