8 Dim Ioan ei hun oedd y golau; dim ond dweud wrth bobl am y golau roedd e'n wneud.
9 Roedd y golau go iawn, sy'n rhoi golau i bawb, ar fin dod i'r byd.
10 Roedd y Gair yn y byd,ac er mai fe greodd y byd,wnaeth pobl y byd mo'i nabod.
11 Daeth i'w wlad ei hun,a chael ei wrthodgan ei bobl ei hun.
12 Ond cafodd pawb wnaeth ei dderbyn,(sef y rhai sy'n credu ynddo)hawl i ddod yn blant Duw.
13 Dim am fod ganddyn nhw waed Iddewig;(Dim canlyniad perthynas rywiol a chwant gŵr sydd yma)Duw sydd wedi eu gwneud nhw'n blant iddo'i hun!
14 Daeth y Gair yn berson o gig a gwaed;daeth i fyw yn ein plith ni.Gwelon ni ei ysblander dwyfol,ei ysblander fel Mab unigrywwedi dod oddi wrth y Tadyn llawn haelioni a gwirionedd.