10 Mae'r lleidr yn dod gyda'r bwriad o ddwyn a lladd a dinistrio. Dw i wedi dod i roi bywyd i bobl, a hwnnw'n fywyd ar ei orau.
11 “Fi ydy'r bugail da. Mae'r bugail da yn fodlon marw dros y defaid.
12 Mae'r gwas sy'n cael ei dalu i ofalu am y defaid yn rhedeg i ffwrdd pan mae'n gweld y blaidd yn dod. (Dim fe ydy'r bugail, a does ganddo ddim defaid ei hun). Mae'n gadael y defaid, ac mae'r blaidd yn ymosod ar y praidd ac yn eu gwasgaru nhw.
13 Dim ond am ei fod yn cael ei dalu mae'n edrych ar ôl y defaid, a dydy e'n poeni dim amdanyn nhw go iawn.
14 “Fi ydy'r bugail da. Dw i'n nabod fy nefaid fy hun ac maen nhw'n fy nabod i –
15 yn union fel y mae'r Tad yn fy nabod i a dw innau'n nabod y Tad. Dw i'n fodlon marw dros y defaid.
16 Mae gen i ddefaid eraill sydd ddim yn y gorlan yma. Rhaid i mi eu casglu nhw hefyd, a byddan nhw'n gwrando ar fy llais. Yna byddan nhw'n dod yn un praidd, a bydd un bugail.